Gwobr ysbrydoliaeth i Merêd a Phillys Kinney

Meredydd Evans a Phillis Kinney gyda Huw Stephens
Image caption I Meredydd Evans (chwith) a Phyllis Kinney (canol) mae'r Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig yn mynd eleni

Mae Gwobr Cerddoriaeth Cymru wedi cyhoeddi mai'r diweddar Dr Meredydd Evans a'i weddw Phyllis Kinney fydd yn derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig eleni.

Dywedodd y trefnwyr fod eu cyfraniad i Gymru yn "amhrisiadwy" a bod eu dealltwriaeth o gerddoriaeth werin yn rhywbeth roedd y ddau "yn falch iawn i basio ymlaen".

Byddai Dr Meredydd Evans - Merêd i lawer - wedi bod yn 100 oed eleni, ac mae Ms Kinney, sy'n wreiddiol o Michigan yn yr Unol Dalaethau, yn byw yng Ngheredigion.

Arwel Rocet Jones, ffrind i'r ddau, fydd yn derbyn y wobr ar eu rhan.

Bu farw Dr Evans yn Chwefror 2015. Roedd yn berfformiwr, wrth gwrs, ond hefyd yn arbengiwr ar gerddoriaeth werin Gymraeg. Fe fecordiodd gerddoriaeth ar gyfer Amgueddfeydd y Smithsonian yn 1954 yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau cerddoriaeth gyda'i wraig Ms Kinney.

Dywedodd Gwobr Cerddoriaeth Cymru bod y ddau wedi dylanwadu'n fawr ar ymwybyddiaeth pobl o gerddoriaeth Gymreig ar draws y byd.

Yn 2015 enillodd Dr Evans y Wobr Traddodiad Da fel rhan o'r BBC Radio 2 Folk Awards.

Mae nifer o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant Dr Evans yn cael eu cynnal ar draws Cymru, gan cynnwys cyngerdd yn Theatr Arad Goch, Aberystwyth ar 29 Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol