Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Shaftsbury, Casnewydd Image copyright Google
Image caption Cafodd Shafiul Islam ei ganfod yn ardal Shaftsbury, Casnewydd

Mae dyn 22 oed o Gasnewydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i ddyn farw ar ôl cael ei ganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Bu farw Shafiul Islam, 22 oed o Gasnewydd, yn Ysbyty Brenhinol Gwent o ganlyniad i'w anafiadau.

Roedd yr heddlu wedi ei ganfod yn anymwybodol mewn tŷ yn ardal Shaftesbury yn y ddinas nos Iau, 14 Tachwedd.

Cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad - dyn 46 oed a dynes 37 oed o ardal Castell-nedd, a dyn 41 oed o Bontardawe.

Dros y dyddiau diwethaf dywedodd Heddlu Gwent bod tri pherson arall hefyd wedi'u harestio ar yr un cyhuddiad - dau ddyn 22 a 32 oed o Gasnewydd a dyn 41 oed o Gaerdydd.

Mae'r dyn 22 oed bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Mr Islam.

Bu'n ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Iau ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol