Galw am bolisïau i amddiffyn merched mewn campfeydd

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Ceri Jenkins bod merched yn aml yn cael eu haflonyddu tra yn y gampfa

Mae'n rhaid i gampfeydd gael "polisïau clir" er mwyn amddiffyn merched rhag cael eu haflonyddu, yn ôl elusen.

Fe wnaeth un arolwg diweddar yn yr Unol Daleithiau awgrymu bod saith ym mhob 10 menyw wedi cael profiad "anghyfforddus" yn y gampfa, gyda bron i un ym mhob pump yn rhoi'r gorau i'r gampfa o ganlyniad i hynny.

Mae nifer o ferched wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cael pobl yn syllu arnyn nhw, yn gwneud sylwadau annoeth ac eraill wedi cael eu cyffwrdd yn amhriodol.

Dywedodd Cymorth i Ferched Cymru ei bod hi'n sefyllfa "drist ofnadwy" os yw merched yn peidio mynd i'r gampfa am eu bod yn teimlo'n anghyfforddus.

Yn ôl ukactive, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant hamdden, dyw'r sector "ddim yn rhydd o'r heriau cymdeithasol yma" ond dywedodd bod ei aelodau yn "gweithio bob dydd i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel a chyfforddus".

'Gallu gwneud dim'

Am dair blynedd aeth Ceri Jenkins, 22 oed o Gaerdydd, ddim i ardal pwysau trwm ei champfa ar ôl cael ei chyffwrdd yn amhriodol.

"O'n i mewn gym yng nghanol Caerdydd a ro'n i'n gwneud squat ar y peiriannau," meddai.

"O'n i ddim yn edrych yn y mirror a daeth dyn lan ata i a rhoi ei ddwylo ar waelod fy nghefn i, yn really agos at fy mhen ôl i.

"O'dd gen i bwysau ar fy nghefn felly doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth."

'Cwbl amhriodol'

Erbyn hyn mae Ceri wedi adennill ei hyder, ond mae'n dweud bod y digwyddiad wedi cael effaith arni.

"Oedd e'n gwneud i fi deimlo'n exposed, anghyfforddus a nerfus. Ro'n i'n teimlo fel bod gen i gywilydd," meddai.

"Yn edrych yn ôl, dylwn i fod wedi siarad gyda'r manager, ond nes i ddim oherwydd ro'n i'n teimlo'n anghyfforddus. Nes i jest gadael a byth mynd 'nôl."

Image caption Dywedodd Megan Stanworth bod aflonyddu mewn campfeydd yn "broblem enfawr"

Dywedodd Megan Stanworth, 22 oed o Gasnewydd, ei bod wedi cael profiad o ddynion yn gwneud sylwadau amhriodol iddi.

"Dydw i ddim yn meddwl bod digon o bobl yn siarad allan fel bod campfeydd yn sylweddoli ei fod yn broblem enfawr," meddai.

"Mae'r sylwadau sy'n cael ei gwneud yn gwbl amhriodol ac mae'r pethau sy'n digwydd - dylen nhw ddim bod yn digwydd.

"'Dwi jest yn meddwl y gallai campfeydd fod yn gwneud llawer mwy i atal hynny."

'Polisïau clir'

Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru mae'n rhaid i gampfeydd gael polisïau cadarn er mwyn atal ymddygiad o'r fath ac amddiffyn merched.

"Be' fysan ni'n licio gweld ydy bod yna bolisïau clir yn eu lle yn y mannau yma. Polisïau - os ydyn nhw mewn bod - sydd yn cael eu dilyn," meddai Ann Williams o'r elusen.

"Does 'na ddim pwrpas cael polisi a bod neb yn gweithredu.

"Mae angen bod yn glir yno i gyfeirio'r ferch at sut mae mynd â chwyn ymlaen.

"Hefyd mae'n bwysig bod y rheiny sy'n gweithio yn y mannau yma yn ddigon hyderus i gymryd camau priodol os oes cwynion yn cael eu gwneud."

Dywedodd Huw Edwards, prif weithredwr ukactive, sy'n cynrychioli 4,000 o fusnesau yn y diwydiant, bod unrhyw achos o aflonyddu mewn campfa yn "annerbyniol".

"Dyw'r sector ddim yn rhydd rhag yr heriau cymdeithasol hyn ac mae ein haelodau ni'n gweithio bob dydd i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel a chyfforddus tra'n defnyddio eu hadnoddau," meddai.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol