Lori ar dân yn cau'r A55 ar Ynys Môn fore Mawrth

Tân Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd y lori ar dân am dros dair awr

Mae lori ar dân wedi cau'r brif ffordd ar Ynys Môn fore Mawrth.

Aeth y cerbyd ar dân am 02:30 wrth iddo deithio ger Cyffordd 5 yr A55 ger Rhosneigr.

Cafodd diffoddwyr o Gaergybi a Rhosneigr eu gyrru i fynd i'r afael â'r fflamau, gyda'r tân wedi'i ddiffodd erbyn 05:45.

Mae'r ffordd wedi ailagor i'r dwyrain, ond mae'r ffordd i'r gorllewin yn parhau ynghau, gyda gyrwyr yn cael eu dargyfeirio.

Pynciau Cysylltiedig