BBC Cymru Fyw

Yr hanes angof tu ôl i gronfa ddŵr Efyrnwy

Published
image captionYr olygfa brydferth o Lyn Efyrnwy sy'n cuddio hanes trist

Beth yw hanes cronfa ddŵr Efyrnwy yng nghanolbarth Cymru a grëwyd drwy foddi pentref gwledig, ddegawdau cyn i'r un peth ddigwydd yng Nghapel Celyn?

Mae cronfa llyn Llanwddyn yn y newyddion yr wythnos hon oherwydd bod y cwmni sy'n rhedeg y gronfa am ddargyfeirio dŵr yn ôl i ddwy afon gafodd eu hailgyfeirio yn wreiddiol yn 1810 er mwyn bwydo'r gronfa enfawr.

Maen nhw'n dweud mai'r nod yw gwella potensial ecolegol afonydd Cownwy a Marchnant ond mae rhai pobl leol yn poeni y bydd yn creu risg o lifogydd a bod yr afonydd eisoes yn gorlifo.

Dŵr i Lerpwl

Cafodd y llyn ei greu oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o ddŵr wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.

Gan bod 'na ddŵr glân croyw i'w gael yn y canolbarth, ar 14 Gorffennaf 1881, gosododd Iarll Powys y garreg gyntaf yn yr argae fyddai'n boddi Cwm Efyrnwy.

Yr Iarll oedd perchennog y rhan fwyaf o'r tir fyddai'n cael ei foddi, gan gynnwys darnau helaeth o bentref Llanwddyn, lleoliad y gronfa ddŵr newydd fyddai'n llyncu 1200 erw o dir.

image copyrightCynefin
image captionGallwch weld y pentref ar hen fap degwm o'r 1840au yng nghanol y llun. Mae'r map modern sydd drosto'n dangos lle mae'r dŵr heddiw (Trwy garedigrwydd Prosiect Cynefin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Pentref prysur

Ar y pryd, roedd gan bentref Llanwddyn eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel, tair tafarn, 37 o dai a 10 o ffermydd.

Maen anodd dod o hyd i gofnod o'r gwrthwynebiad i'r datblygiad ymhlith y bobl leol ar y pryd ond o'r cychwyn, datgelodd Corfforaeth Lerpwl gynlluniau i godi pentref newydd islaw'r cwm.

Erbyn i'r gronfa ddŵr gael ei llenwi yn 1892, roedd y rhan fwyaf o'r trigolion wedi symud i'r pentref newydd heb lawer o ffws, efallai yn edrych ymlaen at gael cartrefi newydd sbon.

image copyrightArchifdy Powys Archives
image captionPentref Llanwddyn, gyda thafarn y Powis Arms a hen Eglwys St Johns yn y pellter (Llun: Archifdy Powys)

Llanwddyn a Capel Celyn

Yn 2005 awgrymodd yr hanesydd, Dr Owen Roberts o Brifysgol Aberystwyth bod llawer llai o ffws wedi ei wneud o foddi Llanwddyn na boddi pentref Capel Celyn bron i 80 mlynedd yn ddiweddarach oherwydd bod gwleidyddiaeth y ddau gyfnod mor wahanol.

Doedd y mudiad cenedlaethol ddim wedi ei sefydlu a doedd gan nifer fawr o bobl tu hwnt i'r ardaloedd diwydiannol ddim profiad o drefnu ymgyrchoedd yn erbyn llywodraeth y dydd. Dywedodd y Dr Roberts:

"Symudwyd llawer mwy o bobl oddi yno nag yn achos Capel Celyn, felly fe allech chi ddadlau fod Capel Celyn wedi cael gormod o sylw."

image copyrightArchifdy Powys Archives
image captionLlanwddyn cyn sefydlu cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy (Llun: Archifdy Powys)

Chwalfa

Fel yng Nghapel Celyn, cafodd adeiladau eu chwalu. Cafodd y meirw eu datgladdu a'u rhoi i orffwys ym mynwent yr eglwys yn y pentref newydd.

Erbyn hyn, yr unig le mae'n bosib gweld unrhyw olion o'r pentref gwreiddiol yw mewn hen luniau ac ar hen fapiau.

Mae Eiddwen Jones wedi ysgrifennu nofel am yr hanes o'r enw Cofiwch Llanwddyn, a gyhoeddwyd pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Faldwyn yn 2015.

Meddai ar y pryd: "Tristwch ac anghyfiawnder mwyaf yr hanes yw nad oedd gan y pentrefwyr, fel taeogion di-rym, y gallu na'r dylanwad i fedru gwrthwynebu'r trychineb."

"Er bod hanes Tryweryn wedi'i serio ar gof y genedl, mae Dyffryn Efyrnwy, ac ing y pentrefwyr, wedi'u hen anghofio erbyn heddiw. Hyd yn oed yng nghyfnod y boddi ei hun, anwybyddwyd trigolion yr 'Hen Lan' i bob pwrpas, gan bapurau newydd yr oes."

(Addaswyd yr erthygl hon o erthygl a gyhoeddwyd yn 2015)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig

  • Hanes

Dolenni perthnasol ar y we

  • Prosiect Cynefin

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol