BBC Cymru Fyw

Casnewydd: Arestio pedwar ar amheuaeth o geisio llofruddio

Published
image copyrightGoogle
image captionMae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan bobl ardal Shaftesbury y ddinas

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddyn gael ei ddarganfod wedi ei anafu'n ddifrifol.

Cafwyd hyd i'r dyn gydag anafiadau i'w ben mewn tŷ yn ardal Shaftesbury, Casnewydd ddydd Iau ac mae'n dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi arestio dau berson o Gastell-nedd - dyn 46 oed a menyw 37 oed - yn ogystal â dyn 22 oed o Gasnewydd a dyn 41 oed o Bontardawe.

Mae'r pedwar yn cael eu holi yn y ddalfa ac mae'r llu'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth all helpu'r ymchwiliad i'r achos.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardaloedd Tewkesbury Walk, Stryd Evans, Stryd Shaftesbury a Chlos Glastonbury rhwng 18:30 ddydd Iau a 12:30 ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig

  • Casnewydd
  • Heddlu Gwent
  • Cyfraith a threfn