Ofnau am lifogydd yn Llanwddyn oherwydd ailgyfeirio dŵr

River near Llanwddyn in Powys
Image caption Cafodd llif afonydd Cownwy a Marchnant eu dargyfeirio yn ystod yr 1810au wrth i argae fawr Llanwddyn gael ei hadeiladu

Mae trigolion Llanwddyn ym Mhowys yn poeni y gallai prosiect i ailgyfeirio dŵr o Gronfa Efyrnwy i ddwy afon yn yr ardal gynyddu'r risg o lifogydd.

Cafodd argaeau eu codi ar draws afonydd Cownwy a Marchnant yn y 19eg ganrif er mwyn helpu i lenwi'r gronfa ddŵr enfawr.

Bydd y prosiect - sy'n cael ei arwain gan gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy ac United Utilities - yn creu sianeli newydd er mwyn dargyfeirio 25% i lif y ddwy afon.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran United Utilities bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth y cwmni bod angen adfer y llif i'r afonydd erbyn diwedd mis Mawrth nesaf, gyda'r nod o wella potensial ecolegol afonydd Cownwy a Marchnant.

'Dim ffordd fewn nac allan'

Mae 'na obeithion y bydd y newid hefyd yn hwb i'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n perthyn i'r ardal.

Ond mae nifer o bobl leol yn poeni - maent yn dweud bod yr afonydd eisoes yn gorlifo a hynny cyn i fwy o ddŵr gael ei ychwanegu.

Image caption Mae Bryan Ellis yn poeni na fydd yn gallu gadael ei fferm petai'r dŵr yn cael ei ailgyfeirio

Mae Bryan Ellis wedi byw wrth ochr afon Cownwy ger Llanwddyn trwy gydol ei fywyd, ac mae'n deall llif a phatrwm yr afon.

Dywedodd: "Mae'r afon yma yn codi'n gyflym iawn. Dwi wedi gweld hon yn codi tua chwe troedfedd mewn dwy awr.

"Mae allan ar y ffordd rŵan cyn i unrhyw ddŵr gael ei ychwanegu.

"Dyma'r unig ffordd sydd gen i fewn i'r fferm - os bydd yr afon yn golchi'r clawdd, fydd gen i ddim ffordd fewn nac allan.

"Peidiwch â thorri dim byd sy'n gweithio'n iawn."

Cafodd llif afon Cownwy ac afon Marchnant eu dargyfeirio yn ystod yr 1810au wrth i argae fawr Llanwddyn gael ei hadeiladu.

Cafodd yr hen bentref - ei gapeli, eglwys a chartrefi - ei foddi i greu cronfa i ddal dŵr ar gyfer corfforaeth Lerpwl.

Mae'r afonydd wedi bwydo'r gronfa ddŵr fyth ers hynny, ond nawr mae'r cwmni sy'n rheoli'r gronfa - United Utilities - yn mynd i droi 25% o'r llif yn ôl i'r ddwy afon, gyda chwmni Hafren Dyfrdwy, sy'n berchen ar y sianeli dŵr, yn gwneud y gwaith.

'Cynnal asesiadau manwl'

Ychwanegodd llefarydd ar ran United Utilities bod asesiadau manwl wedi'u cynnal, sy'n dangos mai ychydig iawn o effaith fydd y prosiect yn ei gael ar lefelau dŵr ar adegau o lif uchel.

Ond dyw'r cynghorydd lleol, Bryn Davies, ddim yn cytuno a dywedodd mai'r tro cyntaf i bobl leol glywed am y prosiect oedd pan gyrhaeddodd y contractwyr i ddechrau ar y gwaith.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Doedd trigolion yr ardal ddim yn gwybod dim am y peth nes iddyn nhw weld offer a plant yn cael eu symud at yr argaeau bach ym mis Medi i ymyl tai Abertridwr ar gyrion pentre' Llanwddyn.

"Mae dŵr yn llifo i'w gerddi eisoes a fel dwi'n deall does gan y cwmni ddim hawl i droi'r dŵr eto nes eu bod yn cael caniatâd Cyngor Sir Powys."

Bydd cyfle i bobl leol drafod y mater mewn cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Llanwddyn rhwng 16:00 a 19:00 ar 18 Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC