'Dylid cadw TGAU, sy'n cael eu gwerthfawrogi a'u cydnabod'

Arholiadau Image copyright PA Media
Image caption Mae cwricwlwm newydd yn dod i rym yng Nghymru yn 2022

Dylid cadw cymwysterau TGAU pan mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn ysgolion Cymru, yn ôl y corff sy'n goruchwylio'r sector.

Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio ddydd Llun ar ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill ar gyfer pobl 16 oed.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd angen newidiadau i gyd-fynd â'r diwygiadau ond mae'r enw TGAU yn cael ei "werthfawrogi a'i gydnabod yn eang".

Fis diwethaf, galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am ddileu TGAU a symud o arholiadau i fathau eraill o asesu.

Mae dyfodol cymwysterau yn cael ei ystyried oherwydd y diwygiadau i'r cwricwlwm fydd yn golygu newid o bynciau cyfyng i chwe maes dysgu a phrofiad.

Bydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd a Blwyddyn 7, sef blwyddyn gyntaf ysgol uwchradd, ym mis Medi 2022.

Y disgyblion Blwyddyn 7 presennol fydd y cyntaf i gael cymwysterau o dan y system newydd wrth iddyn nhw droi'n 16 yn 2026.

Cadw TGAU?

Dywedodd Cymwysterau Cymru bod yna achos cryf dros gadw'r cymwysterau, ond y dylen nhw esblygu i gwrdd ag anghenion y dysgwyr, yr economi a chymdeithas.

Mae'r corff yn gofyn am adborth ar y cynnig i gadw TGAU fel elfen ganolog o'r cymwysterau a gynigir i blant 16 oed.

"Mae'r enw TGAU wedi'i hen sefydlu ac yn cynnig cryn dipyn o hyblygrwydd", medd llefarydd.

"Credwn fod cadw'r enw TGAU yn ein galluogi i wneud yr holl newidiadau angenrheidiol tra'n dal i elwa ar gadw enw sy'n cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn eang."

Mae'r corff yn credu y gallai datblygu cymhwyster cwbl newydd dynnu sylw ac adnoddau oddi ar y cwricwlwm newydd.

Ond dywedodd papur gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nad oedd TGAU "bellach yn addas i'w pwrpas" a bod "rhesymeg gref dros eu disodli" gydag asesiad 'naratif' fyddai'n disgrifio'r hyn roedd dysgwr yn ei gynnig.

60% o'r cymwysterau yn Saesneg

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn codi cwestiynau am ddyfodol y Dystysgrif Her Sgiliau, sydd yn ganolog i Fagloriaeth Cymru.

Mae'r rheoleiddiwr o'r farn bod y dystysgrif yn darparu sylfaen dda ar gyfer cymhwyster newydd sy'n canolbwyntio ar sgiliau, ond mae'r cwestiwn ynglŷn ag os neu sut y byddai'n rhan o Fagloriaeth Cymru yn parhau.

Image copyright Getty Images

Un o'r cynigion eraill yw symleiddio'r arlwy o 1,600 o gymwysterau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn 2017/18 doedd neb wedi ceisio am bron i 70% ohonynt ac er mai TGAU yw'r rhai mwyaf adnabyddus, maen nhw'n cyfri' am lai na 5% o'r cymwysterau sydd ar gael.

Yn y dyfodol bydd rhaid i gwmnïau ddangos sut mae cymwysterau'n cefnogi nodau'r cwricwlwm newydd, meddai'r rheoleiddiwr.

Mae'r corff hefyd eisiau sicrhau bod yr holl gymwysterau ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan fod dros 60% o gymwysterau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ddim ond ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.

Dywedodd Cymwysterau Cymru hefyd y byddai'n edrych ar hybu'r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth asesu dysgwyr.

Straeon perthnasol