Merched Yr Alban 3-17 Merched Cymru

Louise McMillan a Bethan Lewis Image copyright SNS

Llwyddodd tîm rygbi merched Cymru yn ennill oddi-cartref yn erbyn Yr Alban ddydd Sul.

Bethan Lewis sgoriodd y cais cyntaf wedi 12 munud.

Naw munud yn ddiweddarach fe ddyblodd Cymru eu mantais yn dilyn gwaith da gan Lauren Smyth yn rhyddhau Lisa Neumann i dirio a'i gwneud hi'n 10-0.

Er i Elinor Snowsill fethu a throsi, wnaeth hynny ddim effeithio Cymru wrth iddyn nhw lwyr reoli'r gêm.

Yn dilyn cic gosb lwyddiannus gan Yr Alban roedd Cymru ymhellach ar y blaen ar ôl i'r dyfarnwr ddynodi Cais gosb.

Dyna sut orffennodd y gêm wrth i Gymru ddathlu'r ail fuddugoliaeth dros Yr Alban mewn wyth mis.

Pynciau Cysylltiedig