Dynes 80 oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Sir y Fflint

Mancot Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y tân mewn tŷ yn Prince William Gardens ym Mancot

Mae dynes 80 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir y Fflint.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef llosgiadau yn y digwyddiad yn Prince William Gardens ym Mancot, nos Wener, daeth cadarnhad y bu'r ddynes farw yn yr ysbyty.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw ar ôl i system fonitro yn yr eiddo roi gwybod i'r gwasanaeth tân ac achub.

Mae ymchwiliad yn digwydd nawr i ganfod beth achosodd y tân.