Cwpan Her Ewrop: Scarlets 20-16 London Irish

Corey Baldwin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Corey Baldwin yn sgorio ail gais y Scarlets

Llwyddodd y Scarlets i ennill yn ei gêm agoriadol o 20-16 yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn London Irish nos Sadwrn ym Mharc y Scarlets.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gais gan y Bachwr Motu Matu'u.

Ond fe aeth y Scarlets ar y blaen yn ddiweddarach gyda cheisiau gan Corey Baldwin a Steffan Hughes.

Llwyddodd Stephen Meyler I gicio 11 pwynt I London Irish, ond roedd Dan Jones yr un mor effeithiol i'r Scarlets gyda'i droed, ac fe giciodd 10 pwynt.

Bydd y Scarlets yn wynebu taith i Toulon yn eu gêm nesaf ar 22 Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig