Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 13-32 Munster

Rory Scannell Image copyright Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes y Gweilch gartref yn erbyn Munster yng ngêm agoriadol Cwpan Pencampwyr Ewrop o 32-13.

Roedd ceisiau gan Jeremy Loughman, Keith Earls, Andrew Conway a James Cronin, gan gynnwys 12 pwynt o droed Tyler Bleyendaal yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Llwyddodd y Gweilch i sgorio cais hwyr drwy Aled Davies, gydag wyth pwynt arall yn dod gan Luke Price.

Dyma'r chweched golled mewn saith gêm y tymor hwn i'r Gweilch.

Pynciau Cysylltiedig