Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 31- 17 Castres Olympique

Taine Basham Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Taine Basham yn croesi am ei ail gais o'r gêm

Llwyddodd y Dreigiau i ennill a sicrhau pwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn Castres Olympique ar Rodney Parade.

Roedd y pwynt bonws wedi'i sicrhau erbyn hanner amser diolch i hat-tric gan Taine Basham a chais gan Dafydd Howell.

Fe groesodd Taylor Paris i Castres gyda Lodovic Radosavljevic yn ychwanegu trosiad wedi cic gosb gynharach.

Fe wnaeth Sam Davies lwyddo gyda'r holl drosiadau.

Pynciau Cysylltiedig