Cwpan Her Ewrop: Calvisano 16-38 Gleision

Seb Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Seb Davies yn croesi am gais i'r Gleision

Fe ddechreuodd y Gleision eu hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Calvisano.

Roedd y Gleision yn ennill 17-10 erbyn hanner amser gyda Matthew Morgan a Seb Davies yn croesi a'r asgellwr Simone Balocchi I'r tîm cartref.

Daeth yr Eidalwyr o fewn pwynt i'r Gleision diolch i giciau cosb Paolo Pescetto.

Ond death dau gais gan James Botham a Rey Lee-Lo yn sydyn wedi hynny i sicrhau buddugoliaeth i'r gleision.

Daeth eu pumed cais yn hwyr yn y gêm gyda Harri Millard yn croesi.

Mae'r Gleision nawr wedi ennill eu saith gem ddiwethaf yn y gystadleuaeth yma ar ôl codi'r tlws yn 2018.

Pynciau Cysylltiedig