Achos troseddau ffrwydron i'w gynnal ym mis Ionawr
- Published
Mae disgwyl i achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffrwydron a gwenwynau ddechrau yn y flwyddyn newydd.
Cafodd Russel Wadge, 57 oed, ei arestio ym mis Mehefin ar ôl i swyddogion gwrth-derfysgaeth archwilio Fferm Baglan ger Trimsaran.
Mae Mr Wadge yn wynebu 75 cyhuddiad dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol, y Ddeddf Gwenwynau a'r Ddeddf Arfau Cemegol.
Mae Mr Wadge yn parhau yn y ddalfa ar ôl i'r awdurdodau gael caniatâd i ymestyn y cyfnod y mae ganddyn nhw hawl i'w gadw.
Mae disgwyl i wrandawiad pellach gael ei gynnal ar 20 Rhagfyr, gydag achos o rhyw ddwy neu dair wythnos gychwyn ym mis Ionawr.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Mehefin 2019
- Published
- 18 Mehefin 2019