Lawrence a Ward allan o garfan Cymru i herio Azerbaijan
- Published
Mae ymosodwr Derby County, Tom Lawrence, a gôl-geidwad Caerlŷr, Danny Ward wedi tynnu 'nôl o garfan Cymru ar gyfer yn gêm yn erbyn Azerbaijan.
Ni fydd Ward yn teithio oherwydd rhesymau personol, ac mae Lawrence wedi tynnu'n ôl o'r garfan oherwydd salwch.
Mae Cymru'n wynebu Azerbaijan mewn gêm ragbrofol Euro 2020 yn Baku ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 17:00 amser Cymru.
Mae amddiffynnwr Aston Villa, Neil Taylor, eisoes wedi tynnu 'nôl o'r garfan oherwydd rhesymau personol.
✈️ Barod i fynd!
— Wales 🏴 (@Cymru) November 14, 2019
En route to Baku 🇦🇿
Comment with your travel photos if you’re heading to Azerbaijan! 👇#TogetherStronger pic.twitter.com/wmUW6IOIbi
Ar ben hynny, mae amddiffynnwr Abertawe, Joe Rodon, hefyd allan o'r ornest yn Baku a'r gêm yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd ar 19 Tachwedd - gêm olaf Cymru yn yr ymgyrch ragbrofol.
Ar nodyn mwy calonogol mae amddiffynnwr Bournemouth, Chris Mepham, capten y garfan, Ashley Williams, a seren Juventus, Aaron Ramsey, ar gael i reolwr Cymru, Ryan Giggs.
Mae Gareth Bale wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan hefyd, er nad yw wedi chwarae i Real Madrid yn ddiweddar.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Medi 2019
- Published
- 5 Tachwedd 2019