Gwrthod taliad anabledd: 80% o apeliadau Cymru yn llwyddo

Alex a Michael Devlin Image copyright Jan Andrews
Image caption Llwyddodd Alexandra Devlin, yma gyda'i gŵr Michael, yn ei hapêl am fudd-dal

Mae pedwar o bob pum apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod taliad budd-dal anabledd sydd wedi ei brosesu yng Nghymru wedi llwyddo, yn ôl gwaith ymchwil y BBC.

Fe wnaeth canran yr achosion llwyddiannus gafodd eu prosesu yng Nghaerdydd - achosion o Gymru a de orllewin Lloegr - gynyddu o 51% yn 2013/14 i 80% rhwng Ebrill a Rhagfyr 2018.

Dywed elusennau fod llwyddiant achosion apêl yn dangos fod y system bresennol yn "llawn gwallau" gyda phenderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud.

Yn ôl Llywodraeth y DU dyw apeliadau ond yn ganran fechan o'r holl geisiadau sy'n cael eu gwneud.

Caerdydd yw un o'r saith o ganolfannau yn y DU sy'n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r llywodraeth dros fudd-daliadau.

Fe wnaeth y ganolfan yno brosesu 145,616 o achosion apêl rhwng 2013 a 2018. Roedd bron i 94,000 o'r rhain (65%) yn llwyddiannus.

Cwmnïau preifat Capita, Independent Assessment Services a Maximus sy'n gwneud y gwaith o asesu ceisiadau ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r llywodraeth.

'Mae gen i ofn'

Image copyright Simon Green
Image caption Mae Simon Green y poeni wrth aros am ei asesiad

Dywed Simon Green, sy'n 43 oed ac o Ben-y-bont ar Ogwr, ei fod yn byw mewn ofn wrth aros am asesiad gan Capita.

Mae ganddo diwmor ar yr ymennydd, ac fe gafodd wybod na fyddai'n byw heibio'r Nadolig.

Mae'n defnyddio cadair olwyn oherwydd ei gyflwr - y cafodd ddiagnosis ohono pan yn 12 oed.

"Dwi wedi derbyn llythyr gan Capita a mae gen i ofn," meddai Mr Green, sy'n gadeirydd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr.

"Dwi wedi helpu pobl drwy'r broses apêl - ac mae'n beth rhwystredig.

"Dwi'n meddwl eu bod yn gwrthod pobl yn y gobaith na fyddant yn apelio."

Ledled y DU mae dros 550,000 o bobl wedi ennill eu hapeliadau am daliadau anabledd rhwng 2013 a 2018.

Ers 2013, mae pobl sy'n apelio yn erbyn eu hasesiad wedi gorfod cwblhau ffurflen ysgrifenedig o fewn mis.

Os ydyn nhw'n aflwyddiannus, mae modd gwneud apêl arall mewn tribiwnlys.

Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau fod y broses wedi ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n hawlio yn cael y penderfyniad cywir heb orfod mynd i lys.

Ond dywed beirniaid fod y drefn yn ddryslyd, yn rhoi straen ar bobl a ddim yn rhoi digon o amser i bobl gasglu tystiolaeth er mwyn cefnogi eu hapêl.

Rhwng 2013 a 2018 bu gostyngiad o 55% yn nifer yr achosion sy'n mynd i dribiwnlys yng Nghymru a de orllewin Lloegr.

Dywed elusennau fod toriadau i gymorth cyfreithiol hefyd wedi arwain at lai o bobl yn apelio.

'Y cyfan mor ddianghenraid'

Image copyright Jan Andrews
Image caption Yn ôl Alexandra Devlin, cafodd cwestiynau perthnasol mo'u gofyn yn ystod asesiad

Un sy'n anhapus gyda'r drefn yw Alexandra Devlin, cyn-ymgynghorydd ariannol o Gaerdydd sydd wedi byw gyda chyflwr MS ers bron i 20 mlynedd.

Yn gynharach eleni cafodd ei hasesu gan berson mae hi'n honni wnaeth ddim gofyn cwestiynau perthnasol.

Cafodd ei chais am y swm uchaf o'r Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) - gwerth tua £100 y mis - ei wrthod.

"Daeth llythyr yn ôl yn dweud fy mod yn iawn o'r canol i fyny ac yn 'gallu gwisgo fy hunan'. Cafodd hyn ddim ei ofyn yn y cyfweliad, a dyw e ddim yn wir," meddai.

Gyda help Cymdeithas MS fe wnaeth hi apelio, gan gyflwyno dogfennau i'r llys oedd yn disgrifio ei chyflwr meddygol.

"Pan wnes i gyrraedd y tribiwnlys, daeth rhywun allan a dweud 'byddwch yn falch o wybod rydym wedi darllen y nodiadau a byddwn yn caniatáu'r lefel uwch o daliadau'.

"Ro ni'n falch. Ond roedd y cyfan mor ddianghenraid."

'Gwella'r broses'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Rydym wedi ymroi i sicrhau fod pobl yn cael yr arian maen nhw'n haeddu, ac rydym yn gwario £55bn y flwyddyn yn cefnogi pobl anabl a rhai gyda phroblemau iechyd.

"Rydym wedi bod yn gwella'r broses asesu a dim ond 4% o benderfyniadau Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth ESA a 5% o benderfyniadau Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) sy'n cael eu gwrthdroi mewn apêl."

Dywed Capita a Maximus fod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda'r broses, a'u bod yn gweithio gydag elusennau a sefydliadau pobl anabl i wella gwasanaethau.

Straeon perthnasol