Canfod corff dyn oedrannus mewn tân yn Wrecsam
- Published
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn oedrannus wedi marw mewn tân mewn eiddo yn Wrecsam.
Fe gafodd dwy injan dân eu hanfon i eiddo yn ardal Holt o'r dref toc wedi 21:00 nos Fawrth.
Daeth cadarnhad bod corff dyn a gredir ei fod yn ei 80au wedi ei ganfod gan ddiffoddwyr.
Bydd y gwasanaeth tân nawr yn ymchwilio i achos y tân.