Cost technoleg cyfieithu'n creu 'gwasanaeth eilradd'

Huw Onllwyn Jones
Image caption Dywedodd Huw Onllwyn Jones bod ymateb y llywodraeth yn "anfoddhaol"

Dyw cynghorau cymuned ddim yn cael digon o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl cadeirydd cyngor yng Nghaerdydd.

Yn ôl Huw Onllwyn Jones, cadeirydd Cyngor Cymuned Radur a Threforgan, mae'r llywodraeth yn "siomi" siaradwyr Cymraeg drwy beidio â darparu meddalwedd cyfieithu am ddim.

Mewn ymateb i lythyron gan Mr Jones, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: "Nid ydym yn buddsoddi mewn cyfieithu o'r fath y cyfeiriwch ato, ond rydym wrthi'n buddsoddi mewn gwell ddefnydd o gyfieithu cyfrifiadurol".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth wrth Cymru Fyw bod "dim amserlen bendant" ar gyfer sicrhau bod y dechnoleg ar gael i unrhyw un sydd ei hangen.

'Dibynnu ar Bing Translate'

Dywedodd Mr Jones, cyn-bennaeth Uned y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, bod talu am feddalwedd cyfieithu gwell ar gyfer gwefan cyngor cymunedol Radur a Threforgan yn "rhy gostus".

Yn ôl Mr Jones: "Rydym yn gorfod parhau gyda Bing Translate, sy'n cymryd chi i ffwrdd o dudalen ein gwefan ni a dydyn ni methu sicrhau bod e i gyd yn gywir."

Mewn un o'i lythyron i'r Farwnes Morgan, dywedodd: "Rwy'n siŵr na fyddai Llywodraeth Cymru byth yn defnyddio system o'r fath.

"Fel cyngor cymuned fach, fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fentro a dibynnu ar Bing Translate.

"Ond nid yw'n iawn i ni wneud hynny, gan ei fod yn rhoi gwasanaeth eilradd i siaradwyr Cymraeg."

Er bod cyllid Cyngor Cymuned Radyr a Threforgan o £125,000 yn weddol fawr o gymharu â chynghorau cymuned eraill, dywedodd Mr Jones: "Gallech ddadlau bod yr arian yma ar gael i ni, ond dyw hwn ddim yn wir am bob cyngor."

O'r chwe chyngor cymuned yng Nghaerdydd, dim ond un - Radur a Threforgan - sydd â gwefan dwyieithog.

Dywedodd ysgrifennydd Cyngor Cymuned Sain Ffagan, Andy Gowman: "Yn fy marn bersonol, byddan ni'n awyddus i gyfieithu ein gwefan i'r Gymraeg.

"Ond rydym ni'n gyngor cymunedol bach iawn, gydag ond £20,000 y flwyddyn yn dod mewn o dalwyr treth, a gydag o gwmpas 2,146 o drigolion.

"Mae'n debygol byddai cyllid ein cyngor yn rhy fach i brynu meddalwedd cyfieithu heblaw ei fod wedi cael ei gynorthwyo gan gyfundrefn allanol."

Image caption Dywedodd Eluned Morgan bod y llywodraeth wrthi'n buddsoddi mewn technoleg cyfieithu digidol

Mewn ymateb i'r cwynion dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi mewn technoleg cyfieithu ddigidol, yn ôl amcanion Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg.

Yn ôl llefarydd, fe fydd y meddalwedd y mae'r llywodraeth yn buddsoddi ynddo "yn gwella cyfieithu peirianyddol", a bydd hynny yn ei dro yn "datblygu cof y meddalwedd cyfieithu, ac felly bydd yn cyfieithu brawddegau, yn hytrach na chyfieithu gair am air".

Ychwanegodd y bydd y meddalwedd wedyn "ar gael trwy drwydded agored fel bod unrhyw un yn gallu ei defnyddio".

Pan ofynnwyd pryd fyddai'r meddalwedd ar gael, atebodd y llefarydd: "Does dim amserlen bendant ar hyn o bryd - nid misoedd, ond nid blynyddoedd ychwaith."

Straeon perthnasol