BBC Cymru Fyw

Pro14: Scarlets 20-17 Benetton

Published
image copyrightGetty Images
image captionRob Evans sgoriodd ail gais y Scarlets

Llwyddodd y Scarlets i frwydro i fuddugoliaeth dros Benetton nos Sadwrn, gyda Dan Jones yn sgorio'r pwyntiau buddugol gyda chic ola'r gêm.

Un cais yr un oedd hi ar hanner amser, gyda Steff Evans yn croesi i'r tîm cartref ac Angelo Esposito i Benetton, ond diolch i goliau cosb yr Eidalwyr oedd yn arwain 14-10 ar yr egwyl.

Aeth y Scarlets ar y blaen gyda chais gan y prop Rob Evans, cyn i Tommaso Allan ei gwneud hi'n gyfartal gyda gôl gosb ym munud ola'r gêm.

Ond gydag eiliadau'n unig yn weddill llwyddodd y Scarlets i ennill cic gosb, ac roedd Jones yn gywir gyda'i gic o 35 medr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn yr ail safle yn Adran B y Pro14, gyda phum buddugoliaeth o'u chwe gêm.

Pynciau Cysylltiedig

  • Scarlets
  • Chwaraeon
  • Rygbi