Pro14: Gleision 30-17 Cheetahs

Jasper Wiese Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Jasper Wiese gerdyn coch am daro Jason Tovey yn ei wyneb gyda'i ysgwydd

Llwyddodd y Gleision i sicrhau'r fuddugoliaeth mewn gêm galed yn erbyn Cheetahs ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.

Sgoriodd Aled Summerhill gais cynta'r gêm o fewn 10 munud, cyn i'r wythwr Jasper Wiese weld cerdyn coch i'r ymwelwyr am daro Jason Tovey yn ei wyneb gyda'i ysgwydd.

Er eu bod i lawr i 14 chwaraewr Cheetahs sgoriodd ddau gais nesa'r gêm i fynd ar y blaen, gyda Rhyno Smith a Clayton Blommetjies yn croesi'r gwyngalch o fewn ychydig funudau i'w gilydd.

Fe welodd Gerhard Olivier gerdyn melyn ar ddiwedd yr ail hanner i gymryd yr ymwelwyr i lawr i 13 dyn, ac wedi dwy gôl gosb roedd y Gleision ar y blaen o 17-14 ar yr egwyl.

Llwyddodd y tîm cartref i gymryd mantais o fod â dau chwaraewr yn ychwanegol, wrth i Josh Turnbull groesi am gais ar ddechrau'r ail hanner.

Gyda 10 munud yn weddill fe gafodd y prop Keiron Assiratti gerdyn melyn i roi'r ddau dîm i lawr i 14 chwaraewr ar gyfer diwedd y gêm.

Cafodd Jarrod Evans gerdyn melyn hefyd yn yr eiliadau olaf, gan olygu bod y Gleision wedi gorffen y gêm gyda 13 chwaraewr.

Pynciau Cysylltiedig