Cwpan FA Lloegr: Grimsby 1-1 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd yn rhaid i Gasnewydd a Grimsby herio ei gilydd unwaith eto er mwyn penderfynu pwy fydd yn mynd trwodd i ail rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn gêm gyfartal brynhawn Sadwrn.

Llwyddodd Jamille Matt i gael y bêl yn y rhwyd i'r ymwelwyr wedi hanner awr, ond penderfynodd y llumanwr ei fod yn camsefyll.

Cyn hanner amser aeth Grimsby ar y blaen, gyda pheniad Luke Waterfall yn curo'r golwr Tom King.

Fe ddaeth yr Alltudion yn gyfartal gyda 10 munud yn weddill, gyda Padraig Amond yn sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Jake Hessenthaler ar Mark O'Brien.

Bydd y gêm ailchwarae yn cael ei chynnal ar 19 Tachwedd yn Rodney Parade.