BBC Cymru Fyw

Y Bencampwriaeth: Sheffield Wednesday 2-2 Abertawe

Published
image copyrightGetty Images
image captionAndré Ayew sgoriodd gôl gynta'r gêm i Abertawe

Llwyddodd Abertawe i achub pwynt gwerthfawr yn Sheffield Wednesday brynhawn Sadwrn, gyda'r ddau dîm yn sgorio wedi i'r 90 munud ddod i ben.

Y tîm cartref gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gyda golwr Abertawe, Freddie Woodman yn arbed yn dda o ergyd Steven Fletcher.

Er hynny, yr Elyrch aeth ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr, gydag André Ayew yn rhwydo wedi i'r tîm cartref fethu â chlirio'r bêl o gic gornel.

Daeth Sheffield Wednesday yn gyfartal gyda 10 munud yn weddill - Fernando Forestieri yn rhwydo wedi i Woodman arbed ergyd Adam Reach.

Wedi i'r 90 munud ddod i ben llwyddodd y Cymro, Morgan Fox i sgorio er mwyn rhoi'r fantais am y tro cyntaf yn y gêm i'r tîm cartref, cyn i Ben Wilmot ei gwneud hi'n gyfartal eto gydag eiliadau'n unig yn weddill.

Pynciau Cysylltiedig

  • Chwaraeon
  • Clwb Pêl-droed Abertawe
  • Pêl-droed