Galw am 'enw unigryw Gymreig' i'r Cynulliad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Adam Price yn galw am 'enw unigryw Gymreig' i'r Cynulliad

9 Tachwedd 2019 Diweddarwyd 15:13 GMT

Mae ymgyrchwyr wedi galw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad ddydd Sadwrn mewn rali ym Mae Caerdydd.

Daeth tua 100 o bobl i'r digwyddiad ar risiau'r Cynulliad brynhawn Sadwrn, gan gynnwys gwleidyddion fel arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Dywedodd Mr Price y byddai enw uniaith Gymraeg ar y Cynulliad yn symbol o'r "Gymry newydd ry'n ni eisiau ei greu".