Pro14: Caeredin 20-7 Dreigiau

Caeredin v Dreigiau Image copyright SNS
Image caption Matt Scott yn cario'r bêl i Gaeredin yn erbyn y Dreigiau

Colli oedd hanes y Dreigiau o 20-7 oddi cartref yng Nghaeredin yn y Pro 14 nos Wener.

Daeth y cais cyntaf wedi 14 o funudau gyda Blair Kinghorn yn croesi i'r tîm cartref.

Llwyddodd Simon Hickey gyda'r trosiad a chic gosb cyn hanner amser.

Fe wnaeth cic gosb arall gan Hickey roi Caeredin 13-0 ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.

Fe darodd y Dreigiau'n ôl gyda chais gan Adam Warren a Sam Davies yn cicio'n gywir rhwng y pyst.

Fe aeth Caeredin ymhellach ar y blaen gyda chais gan Duhan van der Merwe.

Fuodd bron i Gaeredin sgorio trydedd cais yn y pum munud diwethaf ond fe gollodd reolaeth o'r bêl cyn tirio.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Dreigiau'n bumed yn y tabl.

Pynciau Cysylltiedig