Rheolau slyri newydd yn 'fygythiad i swyddi a busnesau'

Afon Image copyright Getty Images
Image caption Gwastraff yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o lygredd mewn afonydd

Mae'r Gweinidog Amgylchedd wedi dod dan bwysau yn ystod cynhadledd amaethyddol ynglŷn â rheolau newydd i atal llygredd afon.

Mynnodd ffermwyr yn Llandrindod nad oedden nhw wedi cael gwybod digon am y cynlluniau, sydd fod i ddod i rym ymhen llai na deufis.

Dywedodd un wrth Lesley Griffiths y byddai'n achosi "trychineb" yng nghefn gwlad Cymru, gan ragweld y gallai achosion gynyddu o slyri yn gollwng i nentydd.

Yn ôl Ms Griffiths mae'n rhaid iddi wrando ar ddwy ochr y ddadl.

Byddai'r rheolau newydd yn golygu bod ffermydd ar draws Cymru yn methu gwasgaru slyri ar eu caeau rhwng canol Hydref a dechrau Chwefror, er mwyn lleihau'r risg ohono'n golchi i afonydd yn ystod glaw.

Ond er bod y llywodraeth yn awyddus i gyflwyno'r mesurau yn raddol o 1 Ionawr 2020, mae ffermwyr yn dweud nad ydyn nhw wedi clywed unrhyw fanylion eto ynglŷn â sut fydd hynny'n gweithio.

Dydy ddim yn glir chwaith faint o gyllid fydd ar gael i'w cynorthwyo i addasu.

Mae rhai wedi honni y bydd yn rhaid iddyn nhw wario cannoedd ar filoedd o bunnau er mwyn uwchraddio eu storfeydd slyri.

Image caption Achos o lygredd yn Afon Dulas ger Aberteifi ym mis Mai

Wrth annerch cynhadledd flynyddol NFU Cymru yn Llandrindod, rhybuddiodd llywydd yr undeb John Davies, y byddai'r sefyllfa'n "fygythiad i nifer o fusnesau a swyddi".

Galwodd Roger Lewis, ffermwr llaeth o Sir Benfro, ar Ms Griffiths i ailystyried y cyfyngiadau ar wasgaru slyri, gan fynnu y dylai ffermwyr allu rheoli "yn ôl yr amodau a'r tywydd, ac nid yn ôl y calendr".

Disgrifiodd y cynlluniau newydd fel rhai "peryglus iawn," fyddai'n arwain at ffermwyr yn gwasgaru eu holl slyri ar y cyd yn ystod y cyfnodau yn syth cyn ac ar ôl y cyfnod caeëdig.

Image caption Lesley Griffiths: 'Rhaid gwrando ar dwy ochr y ddadl'

Wrth ymateb i'w gwestiwn, fe gyfaddefodd Ms Griffiths bod y "dyddiadau yn fy mhryderu, yn enwedig o gofio'r newidiadau ry'n ni'n gweld yn yr hinsawdd a'r hydrefau gwlypach ry'n ni'n eu cael".

Dywedodd y byddai'n gofyn i'w swyddogion "edrych yn ofalus" ar y mater.

Ond ynglŷn â'r angen am fwy o reoliadau fe fynnodd bod yn rhaid iddi gydbwyso ei rôl fel y gweinidog amaeth a'i dyletswyddau fel gweinidog yr amgylchedd.

Yn y gorffennol mae hi wedi disgrifio nifer yr achosion o lygredd amaethyddol sydd wedi cyrraedd penawdau'r newyddion yng Nghymru fel "embaras".

Mae grwpiau amgylcheddol a physgota yn teimlo'n gryf iawn o blaid y newidiadau sy'n cael eu cynnig, gydag Afonydd Cymru yn cyflwyno cwyn swyddogol i'r Comisiwn Ewropeaidd yn galw am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru ar lygredd amaethyddol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol