Maynard yn arwyddo cytundeb tair blynedd â Morgannwg

Matthew Maynard Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Matthew Maynard wedi arwyddo cytundeb tair blynedd

Mae Morgannwg wedi ailbenodi Matthew Maynard fel prif hyfforddwr ar gytundeb tair blynedd.

Y cyn-fatiwr oedd yr hyfforddwr dros dro yn 2019, ac roedd hefyd wedi rheoli'r clwb rhwng 2008 a 2010.

Llynedd fe wnaeth y sir orffen yn y pedwerydd safle yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Yn ystod ei yrfa fel batiwr roedd Maynard yn gapten ar Forgannwg, gan arwain y tîm i'r Bencampwriaeth yn 1997.

Mae hefyd wedi chwarae 18 gwaith i Loegr.

Fe ddychwelodd i Forgannwg am ei ail gyfnod gyda'r clwb fel ymgynghorydd batio yn 2017 o dan Robert Crofft, gan gael ei ddyrchafu i'r brif swydd ar gyfer tymor 2019.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol