Rhybudd melyn am law trwm i'r gogledd ddydd Iau

Rhybudd Image copyright Swyddfa Dywydd
Image caption Mae'r rhybudd mewn grym yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam

Mae rhybudd tywydd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o ogledd Cymru ddydd Iau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod perygl y gallai'r amodau achosi llifogydd i rai cartrefi a busnesau.

Mae'r rhybudd mewn grym o 09:00 nes hanner nos, ac yn weithredol yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Ychwanegodd y swyddfa y gallai'r llifogydd achosi trafferthion i wasanaethau bysiau a threnau a gwneud amodau gyrru yn anodd.

Pynciau Cysylltiedig