Etholiad cyffredinol 2019: Faint gall y pleidiau wario?

Image copyright Getty Images

Mae'r Senedd wedi cael ei diddymu ac felly mae ymgyrch etholiad cyffredinol 2019 wedi dechrau yn swyddogol.

Felly beth yw'r rheolau i bleidiau ac Aelodau Seneddol ar wario yn y cyfnod cyn yr etholiad ar 12 Rhagfyr?

Beth gall pleidiau ei wario ar etholiad?

Yn y cyfnod cyn yr etholiad mae 'na reolau ynglŷn â gwariant ymgyrchu i geisio cadw'r ras yn deg.

Gall y rheolau weithiau fod yn amwys, ond maen nhw'n cynnwys gwariant pleidiau gwleidyddol yn y flwyddyn cyn etholiad cyffredinol - a gallant hefyd gynnwys diwrnod pleidleisio.

Rhaid i bob plaid gofnodi ac adrodd ar yr holl wariant ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol, sy'n goruchwylio etholiadau. Mae hyn yn cynnwys arian a wariwyd ar:

  • Hysbysebu o unrhyw fath - o fideos YouTube i faneri;
  • Taflenni neu lythyrau sy'n cael eu hanfon at gartrefi pleidleiswyr;
  • Maniffesto, neu ddogfennau eraill sy'n nodi polisïau plaid;
  • Cynadleddau i'r wasg, ralïau a threuliau cysylltiedig;
  • Cludiant i ddigwyddiadau pleidiau.

Mae gwariant pleidiau gwleidyddol hefyd wedi'i gapio ar £30,000 ar gyfer pob etholaeth mewn etholiad cyffredinol.

Felly pe bai plaid yn cynnig ymgeisydd ym mhob un o 650 o etholaethau'r DU, byddai'r gwariant ar ei uchaf yn gyfanswm o £19.5m.

Gall gwariant hyd yn oed gynnwys treuliau sy'n gysylltiedig â mynychu digwyddiadau pleidiau.

Er enghraifft, cofnodwyd 62 o gofnodion o wario yn McDonald's gyda'r Comisiwn Etholiadol adeg yr etholiad diwethaf.

Faint gafodd ei wario mewn etholiadau blaenorol?

Yn etholiad cyffredinol 2017, nododd 75 o bleidiau a 18 o grwpiau ymgyrchu eu bod wedi gwario dros £41.6m rhyngddynt.

Y Ceidwadwyr wariodd fwyaf ar £18.6m. Roedd hynny'n cynnwys 638 o ymgeiswyr, gan ennill mewn 317 o etholaethau.

£11m oedd cyfanswm Llafur, a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar £6.8m.

Gwariwyd ychydig yn llai ar etholiad cyffredinol 2015, sef £39m.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth y Ceidwadwyr wario £18.6m ar yr etholiad yn 2017

Rhaid i ymgyrchwyr sydd ddim yn perthyn i blaid gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol os ydyn nhw'n bwriadu gwario mwy na swm penodol ar eu hymgyrch.

Mae hynny'n fwy na £20,000 yn Lloegr neu'n £10,000 yng Nghymru, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Rhestrwyd y ddau ymgyrch mwyaf - Best for Britain (o blaid yr UE) ac Undeb Cenedlaethol yr Athrawon - fel ymgyrchwyr sydd ddim yn bleidiau yn etholiad 2017.

Gwariodd y ddau dros £250,000.

Faint allai'r etholiad hwn gostio?

Pan fydd etholiad cyffredinol yn cael ei alw, mae yna lawer o bethau i'w trefnu ac i dalu amdanyn nhw.

Mae'n anodd amcangyfrif faint gallai'r etholiad sydd ar y gweill gostio.

Ond, rydyn ni'n gwybod, ar ôl i'r cyn-Brif Weinidog Theresa May alw etholiad cyffredinol 2017, fod y gost i'r trethdalwyr dros £140m.

Dywedodd gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet fod swyddogion canlyniadau yn gwario £98m i gynnal y pleidleisio yn eu hetholaethau, tra bod £42m yn cael ei wario ar bostio deunydd i bleidleiswyr.

Beth os yw'r rheolau'n cael eu torri?

Cyn etholiad cyffredinol 2001 doedd dim terfyn ar yr hyn y gallai pleidiau gwleidyddol ei wario ar ymgyrchoedd cenedlaethol mewn etholiad cyffredinol yn y DU.

Erbyn hyn, os yw'r rheolau gwariant yn cael eu torri, y ddirwy uchaf yw £20,000 fesul trosedd.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi galw am gynyddu'r ddirwy, a gall troseddau gynnwys cyflwyno manylion gwariant yn hwyr neu'n anghywir.

Cafodd y pleidiau Ceidwadol, Llafur a Chydraddoldeb Menywod eu hymchwilio am adroddiadau gwariant wythnosol anghywir cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Derbyniodd y Ceidwadwyr y ddirwy fwyaf am hyn, sef £6,250.

Beth am Aelodau Seneddol?

Rhaid i unigolion sy'n gobeithio bod yn Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd gadw llygad ar eu gwariant.

Ar lefel leol mae terfyn gwariant pob ymgeisydd yn wahanol.

Mae'n cael ei gyfrif drwy ychwanegu swm penodedig o £8,700, yn ogystal â naill ai 9c neu 6c fesul pleidleisiwr cofrestredig yn eu hetholaeth.

Mae'r swm ychwanegol yn dibynnu a yw'n etholaeth cefn gwlad neu'n un ddinesig.

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd etholwyr yn mynd i'r blychau pleidleisio ar 12 Rhagfyr

Rhaid i ymgeiswyr roi gwybod am gostau hysbysebu, ffioedd gweinyddol fel biliau ffôn a staff.

Mae angen iddyn nhw gadw cofnod o'r holl daliadau ar gyfer treuliau'r etholiad, yn ogystal â derbynebau ar gyfer unrhyw daliadau dros £20.

Beth yw'r rheolau ar roddion?

Rhaid i bleidiau gwleidyddol ddarparu gwybodaeth am roddion i'r Comisiwn Etholiadol bob chwarter.

Rhaid datgan pob rhodd dros £7,500 sy'n cael ei rhoi i blaid, yn ogystal â rhoddion o fwy na £1,500 a roddir i "unedau cyfrifo" plaid.

Dyma'r darnau o blaid lle nad yw'r cyllid yn cael ei reoli gan ei phencadlys.

Gall rhoddion ym Mhrydain gael eu derbyn pan gânt eu gwneud gan unigolion ar y gofrestr etholiadol, y rhan fwyaf o gwmnïau'r DU, undebau llafur neu gymdeithasau adeiladu.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r rheolau yr un fath fwy neu lai, heblaw y gall rhoddion gael eu derbyn hefyd gan ddinasyddion Gwyddelig a sefydliadau cofrestredig.

Rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin eleni, derbyniodd 16 o bleidiau gyfanswm o £14.6m mewn rhoddion.