Cwymp achos treisio: Alun Cairns wedi cael e-bost

Alun Cairns yn cyrraedd 10 Downing Street ddydd Llun 5 Tachwedd 2019 Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Alun Cairns wedi dweud ei fod ond wedi dysgu am ran Ross England yng nghwymp yr achos llys pan dorrodd y stori yr wythnos ddiwethaf

Gall BBC Cymru ddatgelu bod Ysgrifennydd Cymru, oedd yn gwadu gwybod am ran cyn-ymgeisydd Ceidwadol mewn cwymp achos llys yn ymwneud â threisio, wedi derbyn e-bost am y mater ym mis Awst y llynedd.

Mae barnwr Uchel Lys wedi cyhuddo Ross England o ddymchwel achos llys, lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, yn fwriadol yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Mae BBC Cymru wedi gweld e-bost a gafodd ei ddanfon at Alun Cairns ym mis Awst 2018 am ran Mr England, oedd yn arfer gweithio iddo cyn cael ei ddewis yn ymgeisydd yn etholiad Cynulliad 2021.

Mae'r dioddefwr yn yr achos, a'r gwrthbleidiau yng Nghymru, wedi galw ar Mr Cairns i ymddiswyddo.

Mae Mr Cairns wedi cael cais am ymateb.

E-bost

Cafodd e-bost ei ddanfon at Mr Cairns ar 2 Awst, 2018 gan Geraint Evans, ei ymgynghorydd arbennig. Cafodd gopi hefyd ei ddanfon at Richard Minshull - cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig - ac aelod arall o staff.

Mae'n dweud: "Rwyf wedi siarad gyda Ross ac mae'n hyderus na fydd y llys yn cymryd camau pellach."

Dywedodd Mr England, a gafodd ei ddewis fel ymgeisydd Bro Morgannwg, ei fod "wedi rhoi ateb gonest" yn yr achos treisio.

Pan gafodd ei ddewis fel ymgeisydd fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru ei ddisgrifio fel "ffrind a chydweithiwr... y byddai'n bleser ymgyrchu drosto".

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Does dim gwybodaeth ychwanegol o'r ddogfen hon yn cadarnhau sgwrs anffurfiol wnaeth ddigwydd amser sylweddol ar ôl i'r achos ddymchwel ac sy'n cyd-fynd â datganiadau a wnaed."

Cafodd Mr England ei wahardd fel ymgeisydd ac aelod o staff yr wythnos ddiwethaf, wrth i'r blaid ddatgan bwriad i gynnal "ymchwiliad llawn".

Image caption Roedd Ross England yn arfer gweithio yn swyddfa Alun Cairns

Yn ystod yr achos yn erbyn James Hackett, cyfaill i Mr England, dywedodd Mr England ei fod wedi cael perthynas rhywiol achlysurol gyda'r achwynydd - rhywbeth y mae hi'n gwadu - er i'r barnwr egluro na ddylid son am hanes rhywiol y dioddefwr mewn tystiolaeth.

Gofynnodd y Barnwr Stephen Hopkins QC wrth Mr England: "Pam ddywedoch chi hynny? Ydych chi'n hollol dwp?

"Rydych wedi llwyddo ar eich pen eich hun, a does gen i ddim amheuaeth ei fod yn fwriadol, i ddymchwel yr achos yma. Ewch allan o fy llys."

Fe gafwyd Hackett yn euog mewn ail achos.

Image caption Yn ôl ffynhonnell, roedd pobl ym mhencadlys y Ceidwadwyr yn ymwybodol o'r achos llys, gan gynnwys Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies

Yn y cyntaf o ddau ddatganiad ar 31 Hydref, dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies, bod y blaid ond wedi dod i wybod am holl fanylion yr achos pan ddaeth proses apêl y diffynnydd, James Hackett, i ben yn gynharach ym mis Tachwedd.

Dywedodd: "Roeddem yn llwyr ymwybodol bod Ross England yn dyst mewn achos sensitif. Rydym hefyd yn ymwybodol am ein cyfrifoldeb fel cyflogwyr.

"Ers diwedd achos y Llys Apêl, rydym nawr wedi dod yn ymwybodol o holl fanylion yr achos."

Yn yr ail ddatganiad, dywedodd ei fod yn gallu "datgan yn ddiamod" bod ef a Mr Cairns "yn hollol anymwybodol o fanylion cwymp yr achos hwn nes iddyn nhw ddod i sylw'r cyhoedd yr wythnos hon".

Galwad ffôn i'r pencadlys

Dywedodd Mr Cairns hefyd mai "cryn amser yn ddiweddarach" y daeth i wybod am gwymp yr achos, a'i fod ond wedi dod i wybod am ran benodol Mr England pan dorodd y stori yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad dywedodd ei fod wedi dod yn ymwybodol o gwymp yr achos "gryn amser wedyn" ac nad oedd ganddo "unrhyw wybodaeth am rôl Ross England".

Mae Mr England yn mynnu ei fod wedi "ateb yn onest" wrth roi tystiolaeth, gan "gydymffurfio'n llwyr gydag amodau'r llys cyn ac ar ôl yr achos".

Mae aelod arall o'r Blaid Geidwadol wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi ffonio pencadlys y blaid yng Nghaerdydd y diwrnod y cwympodd yr achos i roi gwybod i reolwyr bod hynny wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd Mr England.

Ar ôl gorfod dod â'r achos i ben, dywedodd y barnwr wrth Mr England y byddai'n "ysgrifennu llythyrau personol at bobl sy'n agos atoch yn wleidyddol a gobeithio y byddan nhw'n cymryd camau priodol".

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Cairns, Mr Evans a'r Arglwydd Davies am ymateb.

Image caption Mae Liz Saville Roberts yn un sydd yn galw am ddiswyddo Alun Cairns

Wrth ymateb dywedodd Christina Rees, llefarydd Llafur ar Gymru: "Does dim dwywaith fod Alun Cairns wedi cael ei ddal yn dweud celwydd am yr hyn oedd yn ei wybod am ymwneud Ross England â chwymp achos treisio.

"Roedd gofyn i ni gredu nad oedd Alun Cairns - oedd yn disgrifio Mr England fel 'ffrind a chydweithiwr' - ag unrhyw wybodaeth o'r ymddygiad arweiniodd at ddymchwel achos treisio... a thrawma dychrynllyd i'r dioddefwr.

"Ry'n ni'n gwybod nawr bod hynny'n anwiredd.

"Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol, ymgynghorwyr arbennig ac uwch swyddogion y Ceidwadwyr Cymreig yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Fe wnaethon nhw ddewis Ross England p'run bynnag, ac i gamarwain pan gafon nhw'u dal.

"Mae'r penderfyniad yn gamfarn - mae cuddio'r peth yn anfaddeuol. Dylai Alun Cairns fynd; fel Ysgrifennydd Gwladol ac fel ymgeisydd."

'Anonestrwydd a diffyg arweiniad'

Yr un oedd galwad Liz Saville Roberts o Blaid Cymru: "Mae'r wybodaeth fod Alun Cairns yn gwybod am rôl Ross England yn yr achos cyn ei gefnogi fel ymgeisydd yn dangos nad yw Mr Cairns yn ffit i fod mewn swydd gyhoeddus.

"Ar ei waethaf, mae Mr Cairns yn rhan o gelu gweithredoedd cyn aelod o'i staff mewn achos treisio a chwalwyd.

"Ar y gorau mae wedi dangos anallu dybryd wrth gamfarnu, anonestrwydd a diffyg arweiniad."

Straeon perthnasol