BBC Cymru Fyw

'Dim mwy o rym petai Cymru'n annibynnol,' medd Drakeford

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Brexit
image copyrightGetty Images
image captionMark Drakeford (dde) gyda phrif weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon - sy'n dymuno cael annibyniaeth i'r Alban

Ni fyddai gan Gymru fwy o rym fel gwlad annibynnol, yn ôl prif weinidog Cymru.

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru ddydd Llun, doedd Mark Drakeford ddim yn derbyn bod Brexit wedi arwain at fwy o ddiddordeb a chwilfrydedd mewn annibyniaeth.

"Wel dwi ddim yn cytuno â hynny o gwbl ac mae'n seiliedig ar bethau dwi'n meddwl sydd ddim yn wir," meddai.

"Mae pobl yn dweud y bydd Cymru yn medru bod yn yr Undeb Ewropeaidd fel rhywle annibynnol a dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

"Mae'r UE wedi bod yn glir - dydyn nhw ddim yn mynd i agor y drws i'r Alban neu i ni jest gerdded i mewn i'r Undeb Ewropeaidd."

Daw hyn wrth i'r pleidiau ddechrau paratoi am Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar 12 Rhagfyr.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Mae dadl Mr Drakeford yn "hollol anghywir" yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, oedd yn siarad yn lansiad ymgyrch etholiadol ei blaid yn Ynys Môn.

"Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud y bydden nhw'n croesawu Alban annibynnol i wneud cais i ymuno gyda'r UE.

"Felly mae [Mr Drakeford] yn camarwain pobl os ydy e wedi dweud hynny."

Cyfeiriodd Mr Price at esiampl Gweriniaeth Iwerddon - "gwlad fach", meddai, ond un oedd yn "cael parch" gan wledydd eraill Ewrop.

"Mae'n gymaint o contrast i'r ffordd mae Cymru wedi cael ei thrin o fewn yr undeb Brydeinig yma."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Cyhoeddi rhaglen ginio newydd ar BBC Radio Cymru

Hefyd gan y BBC