'Rhaid agor y celfyddydau i bobl sy'n byw mewn tlodi'

Mold Riots Image copyright Samuel Taylor Photography
Image caption Roedd cynhyrchiad Theatr Clwyd o 'Mold Riots' yn cynnwys cast o 100 o drigolion lleol

Dylai cyrff celfyddydol sy'n derbyn arian cyhoeddus fod yn fwy agored i bobl sy'n byw mewn tlodi, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Dywedodd ymchwiliad i sut mae'r celfyddydau'n gallu mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol y dylai cwmnïau trafnidiaeth hefyd ei gwneud hi'n haws i'w profi.

Galwodd yr ymchwiliad gan y pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu hefyd am fwy o fuddsoddiad mewn prosiect sy'n mynd â'r celfyddydau i gymunedau difreintiedig.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dosbarthu arian cyhoeddus i'r sector, y "dylai'r celfyddydau fod ar gael i bawb," a'u bod yn "benderfynol o chwalu rhwystrau sy'n atal hyn rhag digwydd".

Dywedodd aelod cynulliad Plaid Cymru, Bethan Sayed, sy'n cadeirio pwyllgor diwylliant y cynulliad, fod cyfrifoldeb ar y celfyddydau sy'n derbyn arian cyhoeddus i wneud mwy i gyrraedd cymunedau difreintiedig.

"Yr hyn oedd yn ddiddorol i ni ei glywed oedd bod rhai o'r grwpiau [a roddodd dystiolaeth] wedi dweud nad oedd yn anodd cyrraedd rhai cymunedau, ond y sefydliadau mawr oedd wedi methu â mynd allan yno i ymgorffori eu hunain mewn cymunedau fel y dylent ei wneud," meddai.

"Y wers i ni yw, oes, mae angen i ni ariannu'r sefydliadau mawr hynny sydd wedi ennill clod yn rhyngwladol. Ond mae angen iddyn nhw gymryd fwy o gyfrifoldeb i wneud mwy yn y cymunedau hynny.

"Nid yn unig mynd i mewn a gwneud digwyddiad neu gynhyrchiad, ond mynd i mewn a chyd-gynhyrchu, i ofyn pa fath o beth hoffai'r gymuned yna ei weld, a sut y gall y berthynas ddatblygu dros y blynyddoedd.

"Rwy'n credu bod y celfyddydau'n newid bywydau pobl - eu hiechyd meddwl nhw, eu barn nhw am y byd, a sut maen nhw'n rhyngweithio â phobl yn eu cymunedau. Ac felly maen nhw'n gallu creu gwell cydlyniant cymunedol o ganlyniad."


'Buddsoddiad iawn, nid 'tokenism''

Yn ddiweddar, aeth Theatr Clwyd â chynhyrchiad Mold Riots i strydoedd Yr Wyddgrug - sioe oedd yn cynnwys cast o 100 o drigolion yr ardal.

"Y cwestiwn mawr 'nath godi i ni oedd 'pwy ydy'r gynulleidfa?'," meddai Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol y theatr, Gwennan Mair.

"Roedd 'na gast o 100 o bobl o'r gymuned yn cymryd rhan. 'Da ni wedi bod yn gweithio ers mis Ionawr yn canu, dawnsio a chael llais y bobl leol yn y sioe.

"Y bwriad rŵan ydy 'neud un bob blwyddyn - prosiect proffesiynol, cymunedol yn Sir y Fflint. Yn benodol i agor y drws i fwy o bobl cael cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau.

"Fel rhan o Mold Riots dyma ni'n cynnal bob mathau o grwpiau - clwb gweu, clwb ffotograffiaeth, clwb ffilm.

Image caption Gwennan Mair ydy Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd

"Yn sgil bod allan ar y strydoedd yn gweithio ar y cynhyrchiad, dyma ni fel tîm cynhyrchu yn creu perthynas efo criw o bobl ifanc oedd yn dod yna ar eu beics, eu scooters a dyma ni'n meithrin perthynas efo nhw.

"O'n i'n trio cael nhw i ddod fewn i gymryd rhan ac erbyn y nos Wener roedden nhw yna'n sbïo ar y sioe. Wythnos wedyn dyma nhw'n dod mewn i Theatr Clwyd yn adrodd y sgript o Mold Riots a isio siarad efo ni ac yn holi am y gwaith.

"Dwi'n cytuno bod angen mwy o gyfleoedd ond mae'n rhaid i bobl o fewn y byd theatr gael y training ar gyfer gweithio efo'r gymuned i greu prosiectau saff - mae'n rhaid i ni edrych ar ôl y grefft o theatr a phasio'r sgiliau ymlaen i'r genhedlaeth nesa'.

"Mae'r gefnogaeth gan Theatr Clwyd i'r gwaith cymunedol wedi bod yn grêt - 'da ni'n rhoi'r gymuned wrth wraidd y cynhyrchiad, buddsoddiad iawn nid tokenism.

"Y peth i sicrhau rŵan ydy bod hynny'n troi'n rhywbeth hirdymor."


Roedd wyth argymhelliad ffurfiol gan y pwyllgor, gan gynnwys cais i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) sicrhau bod y sefydliadau mae'n ei ariannu yn adlewyrchu'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

Galwodd hefyd ar CCC a Llywodraeth Cymru i fynnu bod pob corff celfyddydol a diwylliannol maen nhw'n ei ariannu yn "nodi eu hamcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol yn eu cynlluniau strategol".

Galwodd un o'r argymhellion ar Drafnidiaeth Cymru i ymrwymo i "bartneriaethau" gyda sefydliadau diwylliannol fel y gallai teithio i ddigwyddiadau neu leoliadau fod yn rhad neu am ddim.

Gofynnodd y pwyllgor hefyd i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chyllid ar gyfer rhaglen sy'n cysylltu cyrff cenedlaethol fel amgueddfeydd gydag ysgolion a grwpiau cymunedol.

Ymateb

Dywedodd Llywodraeth Cymru "Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor. Fydd yna ymateb llawn maes o law."

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at elfen bwysig o'n bywyd diwylliannol sydd ddim yn cael ei adrodd yn aml.

"Nod Cyngor y Celfyddydau yn ein cynllun pum mlynedd 'Er Budd Pawb' yw i wneud y celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl. Mae'n ymrwymiad uchelgeisiol, ond yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth fod gwaith i'w wneud i gyrraedd yn ddyfnach i bob cymuned ar draws Cymru.

"Mewn Cymru deg a chyfartal dylai'r celfyddydau fod ar gael yn eang i bawb. Rydym yn benderfynol o chwalu rhwystrau sy'n atal hyn rhag digwydd ac yn croesawu argymhellion yr adroddiad yma.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sector y celfyddydau a chymunedau Cymru i greu awyrgylch lle mae'r celfyddydau yn cofleidio cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan ganfod ffyrdd newydd i bobl fwynhau a bod yn rhan o'r celfyddydau."

Straeon perthnasol