Apêl yn dilyn marwolaeth beiciwr modur ym Mhowys

Defynnog Image copyright Google
Image caption Mae'r A4215 rhwng Libanus a Defynnog yn cysylltu Pontsenni gyda phrif ffordd yr A470

Mae gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad ar ffordd ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A4215 rhwng Libanus a Defynnog am 15:15 brynhawn dydd Sul yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur.

Bu farw gyrrwr y beic yn y fan a'r lle.

Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau er mwyn caniatáu ymchwiliad.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar i unrhyw un a welodd y cerbydau cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig