Ailgyhoeddi cyfrol yr 'eicon' Ruth Mynachlog

Ruth Jones
Image caption Mae Ruth Jones yn cael ei hystyried i fod yn "eicon benywaidd o'r radd flaenaf"

Mae cyfrol menyw o Dalgarreg sydd wedi ei disgrifio fel "eicon benywaidd o'r radd flaenaf" yn cael ei hailgyhoeddi a bydd digwyddiad i'w lansio yng Ngheredigion yn ddiweddarach.

Cyhoeddwyd 'Atgofion Ruth Mynachlog' yn gyntaf yn 1939 pan roedd Ruth Jones - neu Ruth Mynachlog - dros 80 oed.

Mae'r gyfrol wedi'i diweddaru gan Eiris Llywelyn a Llinos Iorwerth Dafis ar gyfer cynulleidfa'r 21ain ganrif.

Bydd nifer o grwpiau cymunedol o ardal Banc Sion Cwilt a chymunedau cyfagos yn dod at ei gilydd ar gyfer cyflwyniad yn seiliedig ar ei bywyd, gyda Chôr Bro Ruth yn perfformio caneuon fyddai wedi bod yn boblogaidd yng nghyfnod Ruth Jones 'nôl yn y 19eg ganrif.

Image caption Disgrifiodd Emyr Llewelyn y llyfr fel "un o glasuron yr iaith Gymraeg"

Dywedodd Emyr Llywelyn, sy'n gyfrifol am ysgrifennu sgript ar gyfer cyflwyniad y llyfr nos Fercher: "Dwi'n meddwl, o ddifri' nawr, bod Ruth Mynachlog yn eicon benywaidd o'r radd flaenaf yng Nghymru.

"Roedd hi'n symbol o wraig ddioddefus, gwraig dlawd yn codi ei hunan, ac yn symbol o werin y cyfnod yn codi eu hunain allan o'u tlodi drwy eu hymdrechion eu hunain."

"Cynnal ysgolion nos mewn 'sguboriau, cael rhywun i ddysgu Sol-ffa.

"Dyna pam mae hi'n bwysig iawn yn hanes Cymru."

Ychwanegodd Mr Llywelyn: "Fe ddylai pawb yng Ngheredigion ac yng Nghymru wybod am Ruth Mynachlog ac am ei dewrder. Roedd hi'n berson arbennig iawn."

Roedd Ruth Jones hefyd yn fam-gu i'r diddanwr a pherfformiwr Eirwyn Pontshân.

Image copyright Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Image caption Roedd Ruth Jones yn cynrychioli diddordebau pobl werin ardal Banc Sion Cwilt

Yn ganolog i'r gyfrol newydd yw'r tlodi ym mywyd Ruth Jones.

Yn wyth a hanner oed, bu'n rhaid iddi adael ei chartref a mynd i fyw ar aelwyd ddieithr i fugeilio, neu yn ei geiriau hi "mynd i figila" ar Fanc Sion Cwilt.

Mae'r gyfrol hefyd yn sôn am yr arferiad o fynd i "wlana" ar fynydd Tregaron, sef casglu'r gwlân o'r drain a'r eithin i gynhyrchu dillad.

Roedd y capel yn ganolbwynt i gymdeithas y cyfnod, ac yn aml yn gyfrwng i addysgu'r werin.

'Un o glasuron yr iaith Gymraeg'

Yn ôl Mr Llywelyn, mae'r gyfrol yn un bwysig: "Mae fe'n llyfr gwerthfawr o ran safbwynt llenyddol.

"Mae'n hanes un o'r werin yn sgwennu am hanes y werin. Mae'n un o glasuron yr iaith Gymraeg."

Image caption Bydd Côr Bro Ruth yn perfformio ar y noson

Dywedodd arweinydd Côr Bro Ruth, Carol Davies: "Fe benderfynon ni gael côr, a chyflwyno caneuon fyddai wedi bod yn gyfarwydd i Ruth mewn i'r perfformiad.

"Fe ddechreuon nhw gydag aelodau tair cangen o Ferched y Wawr, ac roedd rhaid chwilio am ddynion er mwyn cael côr pedwar llais.

"Un o'r ffefrynnau yw'r gân 'Bwthyn ar y Bryn', oedd yn cael ei ganu fel pedwarawd flynyddoedd mawr yn ôl."

Dywedodd Owenna Davies, prif leisydd y cyflwyniad: "Mae gwirioneddol yn dod â'r cyfnod yn fyw.

"Ni wrth ein bodd yn tynnu cymunedau at ein gilydd. Mae'r cynhyrchiad yn dod â rhywbeth yn fyw."

Bydd y noson arbennig yn dechrau am 19:30 yn Theatr Felin Fach, Dyffryn Aeron, Ceredigion ar 5 Tachwedd.

Straeon perthnasol