Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Sir Gâr

Shane O'Rourke Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd teulu Shane O'Rourke bod "cymaint o bobl yn ei garu"

Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir Gâr dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i gyfeiriad ar Stryd y Gwynt, Rhydaman am tua 12:30 ddydd Sadwrn ble cafodd dyn ei ganfod yn farw.

Mae'r dyn bellach wedi cael ei adnabod fel Shane O'Rourke - dyn lleol 30 oed.

Cafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn y digwyddiad, ac mae un ohonynt wedi cael ei ryddhau.

Mae'r dyn arall gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa, bellach ar amheuaeth o lofruddio.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol