Pro14: Leinster 50-15 Dreigiau

Leinster v Dreigiau Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd Dave Kearney i sgorio dau gais i'r tîm cartref yn yr ail hanner

Roedd hi'n noson anodd i'r Dreigiau yn Nulyn nos Wener wrth i Leinster sgorio wyth o geisiau mewn buddugoliaeth ysgubol.

Fe wnaeth ceisiau gan Michael Bent, Dave Kearney a Harry Byrne arwain Leinster at fantais o 19-8 ar yr egwyl, gyda Jordan Williams yn croesi'r gwyngalch i'r ymwelwyr.

Ond roedd gwaeth i ddilyn yn yr ail hanner i'r Dreigiau , wrth i Ronan Kelleher a James Lowe sgorio dau gais yr un i'r tîm cartref cyn i Hugh O'Sullivan ychwanegu'r wythfed.

Llwyddodd Owen Jenkins i sgorio cais hwyr i'r ymwelwyr ond ni fydd hynny'n llawer o gysur i'r tîm hyfforddi.

Mae'r Dreigiau wedi cael dechrau gwell i'r tymor hwn yn dilyn blwyddyn siomedig y tymor diwethaf, gyda dwy fuddugoliaeth o'u pum gêm hyd yn hyn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol