Pro14: Scarlets 17-13 Cheetahs

Yr asgellwr Steff Evans yn sgorio cais yn ystod ei ganfed ymddangosiad i'r Scarlets Image copyright Rex Features
Image caption Yr asgellwr Steff Evans yn sgorio cais yn ystod ei ganfed ymddangosiad i'r Scarlets

Yng nghanol y glaw ym Mharc y Scarlets y tîm cartref oedd yn fuddugol wedi iddynt drechu'r Cheetahs o 17 i 13.

Roedd hon yn gêm arbennig i Steff Evans wrth iddo chwarae am y canfed tro - fe chwaraeodd am y tro cyntaf yn 2014.

Wedi llwyddiant De Affrica yng Nghwpan y Byd fore Sadwrn roedd yna obeithion mawr ymhlith y Scarlets na fyddai'r Boks yn cael buddugoliaeth arall.

Yr ymwelwyr a sgoriodd gyntaf wedi cais gan y capten Tian Meyer ac roedd y trosiad yn llwyddiannus ond wedi 21 munud fe ddaeth cais i Steff Evans a fe unionodd cicio Dan Evans y sgôr i 7-7.

O fewn ryw chwarter awr cais arall i'r Scarlets - Kieran Hardy y tro hwn ac wedi cicio llwyddiannus gan Dan Jones unwaith eto dyblwyd sgôr y Scarlets i 14 ac 14-7 oedd y sgôr ar yr hanner.

Ar ddechrau'r ail hanner fe ddaeth dwy cig gosb i'r Cheetahs â'r sgôr i 14-13 ond wedi cic gosb arall i'r Scarlets roedd yna bedwar pwynt ynddi.

Y sgôr terfynol oedd 17-13.

Seren y gêm oedd Josh Macleod.

Mewn neges ar eu cyfrif Twitter dywedodd llefarydd ar ran y Scarlets nad "oedd y fuddugoliaeth yn un bert ond mae'n fuddugoliaeth arall" ac fe ddiolchont i'r cefnogwyr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol