Comisiwn yn argymell datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru

Published
image captionMae'r comisiwn yn dweud y dylai Cymru fod a chyfrifoldeb am blismona

Dylai Cymru fod â chyfrifoldeb llwyr am y system gyfiawnder gyda phwerau i fod yn gyfrifol am blismona, carchardai a phenodi barnwyr ei hun, medd comisiwn annibynnol.

Mae pobl Cymru yn cael eu "gadael i lawr gan y system yn ei ffurf bresennol" medd yr adroddiad.

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am yr ariannu, gan gynnwys cymorth cyfreithiol, mae'r comisiwn yn credu y dylai cyfreithiau sy'n cael eu gweithredu yng Nghymru gael eu trin fel rhai ar wahân i gyfreithiau Lloegr.

Byddai'n golygu datganoli pwerau o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref, ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrthod y syniad.

Dywedodd llefarydd: "Rydym o'r farn mai un awdurdodaeth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael cyfiawnder ar draws Cymru a Lloegr.

"Rydym yn croesawu'r adroddiad trylwyr a phwysig hwn a byddwn yn adolygu ei gynnwys yn ofalus."

Cyd-destun datganoli

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd oedd cadeirydd y comisiwn - un o'r barnwyr mwyaf uchel ei statws yng Nghymru a Lloegr.

Mae 78 o argymhellion yn yr adroddiad.

Daw casgliadau'r comisiwn yng nghyd-destun 20 mlynedd o ddatganoli i Gymru. Yn y saith mlynedd ddiwethaf yn unig mae 41 o gyfreithiau wedi eu pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ond mae sawl maes nad yw Cymru yn gyfrifol amdano a'r gred yw bod y system ar hyn o bryd yn rhy gymhleth ac aneffeithiol.

Beth sydd ddim yn gweithio o fewn y system ar hyn o bryd?

Ymhlith y methiannau mae:

  • "Toriadau sylweddol" i gymorth cyfreithiol sy'n golygu bod rhai mewn ardaloedd gwledig yn cael trafferth derbyn cymorth;
  • Diffyg darpariaeth i fenywod a phobl ddu, Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn cael eu cynrychioli gormod fel troseddwyr;
  • Angen cynnwys y dioddefwyr mwy, a dim digon yn cael ei wneud i daclo problemau iechyd meddwl;
  • Mwy o wario ar garchardai yn hytrach nag ar atal troseddu;
  • Gormod o fylchau mewn darpariaeth yn y Gymraeg ac yn rhy ddibynnol ar ewyllys da unigolion.
image copyrightPA
image captionTan 2017 roedd yr Arglwydd Thomas yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai polisïau ganolbwyntio ar leihau'r niferoedd sydd yn mynd i'r carchar gyda mwy o bwyslais ar ddatrys problemau'r unigolyn.

Ond mae hefyd yn galw am nawdd digonol gan ddweud bod Cymru wedi ei effeithio yn ddirfawr gan doriadau Llywodraeth San Steffan.

Mae'r comisiwn sydd yn cynnwys cyfreithwyr, academwyr a chyn brif gwnstabl yn feirniadol o'r diffyg atebolrwydd ac yn dweud bod yna wastraff adnoddau am fod y system yn gymleth.

Beth mae'n argymell?

Rhai o'r argymhellion yw:

  • Creu "cyfreithiau Cymru" sydd ar wahân i gyfreithiau Lloegr a Chymru;
  • Adran gyfiawnder newydd yn Llywodraeth Cymru ac yn cael ei arwain gan weinidog o'r cabinet;
  • Gallai Cymru gael uchel lys a llys apêl ei hun a barnwr o Gymru yn rhan o'r Goruchaf Lys;
  • Plismona a pholisïau atal troseddu gan gynnwys materion iechyd meddwl a chamdriniaeth cyffuriau i'w datganoli;
  • Dylai holl gyrff cyfiawnder fod yn rhan o Fesur yr Iaith Gymraeg 2011 a gwasanaethau gan grwneriaid ar gael yn Gymraeg;
  • Codi'r oedran cyfrifoldeb cyfreithiol o 10 i o leiaf 12 oed yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban.
image copyrightDAVID GODDARD/GETTY IMAGES
image captionCarchar y Berwyn yw un o'r rhai mwyaf ym Mhrydain ond mae'r adroddiad yn argymell lleihau'r niferoedd sydd yn cael eu carcharu

Beth sydd ddim yn cael ei argymell?

Mae'r comisiwn eisiau i blismona gael ei ddatganoli - mae tua thraean o arian ar gyfer lluoedd Cymru yn dod gan grant o'r Swyddfa Gartref. Ond maent yn dweud bod y syniad o sefydlu un llu heddlu yng Nghymru yn un i'w ystyried i'r dyfodol.

Dyw mewnfudo, diogelwch cenedlaethol, twyll ariannol, drylliau a cham ddefnydd o gyffuriau ddim yn cael eu cynnwys.

Carchar i fenywod yng Nghymru - mae'r comisiwn eisiau canolfannau i fenywod sydd yn cynnig cymorth yn hytrach na charchar.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol