Hyfforddi carcharorion i ateb galwadau yn 'werth chweil'

Canolfan alwadau yng Ngharchar Caerdydd
Image caption Mae gan Garchar Caerdydd le i 17 gweithiwr yn eu canolfan alwadau

Mae carcharorion ledled Cymru yn cael eu talu i weithio mewn canolfannau galwadau mewn ymgais i'w helpu i sicrhau swyddi ar ôl cael eu rhyddhau.

Nid oes gan unrhyw un o'r carcharorion yng Nghaerdydd, Abertawe na'r Berwyn fynediad at ddata personol, a bydd pob un yn cael ei fetio'n llym, meddai trefnwyr y cynllun.

Y gobaith yw ennill y sgiliau sydd eu hangen i gael swydd a lleihau cyfraddau troseddu.

Mae tua 17 desg canolfan alwadau yng Nghaerdydd, gyda 24 yng Ngharchar Abertawe ac mae gan Garchar Berwyn 140.

Mae mwy o gwmnïau'n cael eu hannog i weithio gyda'r gwasanaeth carchardai ac mewn digwyddiad diweddar yng Nghaerdydd, cafodd cynrychiolwyr o ganolfannau cyswllt wahoddiad i weld carcharorion yn gweithio yn y carchar.

Yn ôl Greg Fisher, sy'n frocer cyflogaeth rhanbarthol gyda'r Gwasanaeth Carchardai yng Nghymru, mae creu partneriaethau rhwng cwmnïau a charcharorion i'w paratoi ar gyfer gwaith yn bwysig.

"Mae'n creu cysylltiad gyda'r gymuned a chyflogwyr lleol, achos os nad oes ganddyn nhw hynny fe fyddan nhw'n mynd yn ôl i fywyd troseddol," meddai.

Buddsoddiad 'gwerth chweil'

Mae Carchar Caerdydd yn hyfforddi carcharorion gan roi sgiliau fel cynnal a chadw ceir a beiciau, glanhau, adeiladu, ac yn fwy diweddar sgiliau barista iddyn nhw.

Mae hefyd rhaglen i hyfforddi carcharorion i weithio ar y rheilffyrdd gan fod traciau o fewn waliau'r carchar.

"Rydyn ni'n ceisio eu cael ar y llwybr hwnnw i gyflogaeth, i mewn i waith ystyrlon sy'n talu'n dda iawn," meddai Mr Fisher, gan ychwanegu bod rhaglen hyfforddi gwerth £2,500 yn llawer llai na'r gost flynyddol o'u cadw yn y carchar, sef £32,000.

"Rwy'n credu bod y buddsoddiad bach hwnnw'n werth chweil."

Ar ôl cael eu hyfforddi, fe all carcharor ennill £15 yr wythnos yn gwneud y galwadau, ynghyd ag 20c am bob holiadur wedi'i gwblhau, a mwy fyth os yw'r cwsmer yn hapus i gael ei drosglwyddo i drafod darparwyr newydd.

Image caption Yn ôl un cyn-garcharor, Nicola, fe wnaeth yr hyfforddi ganiatáu iddi dorri'r cylch troseddu

Mae Nicola, un o weithwyr menter gymdeithasol i'r enw Census Life, yn gyn-droseddwr a dywedodd bod swydd gyda chyflogwr cefnogol yn golygu iddi dorri'r cylch troseddu.

"Fy neges i i gyflogwyr ydy cymerwch y cyfle hwn," meddai.

"Rydych chi'n creu newid o fewn cymdeithas, mae gennych chi'r offer i newid bywyd rhywun a byddwch chi'n creu cydweithiwr ffyddlon iawn."

Er lles y teulu

Kelly Carrel ydy sylfaenydd y fenter, sy'n rhedeg y canolfannau galw mewn 14 o garchardai yng Nghymru a Lloegr, a dywedodd fod y cyn-droseddwyr y mae hi bellach yn eu cyflogi ymhlith y rhai mwyaf ffyddlon a gweithgar y mae hi wedi ymgymryd â nhw.

"Mae'r unigolion hynny wir eisiau gweithio a gwneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau - nid yn unig iddyn nhw, ond i'w partneriaid a'u plant," ychwanegodd.

"Yn gyffredinol mae yna ormod o sefydliadau sydd â blanced 'na' i weithio gyda throseddwr, gallaf ei ddeall mewn rolau penodol.

"Ond mae yna rai pobl wych, dalentog nad ydyn ni'n manteisio arnyn nhw."