Pro14: Dreigiau 14-38 Connacht

Dreigiau v Connacht Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Connacht i sgorio pum cais mewn perfformiad cryf i ennill 38-14 yn y Pro 14 yn erbyn y Dreigiau.

Er i Tyler Morgan a chic gywir gan Sam Davey roi'r Dreigiau 7-0 ar y blaen wedi 20 munud, roedd yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl tan funudau olaf y gêm i dirio eu hail gais.

Roedd Connacht wedi llwyr reoli awr olaf y gêm diolch i geisiau gan Gavin Thornbury, Matt Healy, Finlay Bealham, Cillian Gallagher a Kieran Marmion.

Fe wnaeth Conor Fitzgerald gicio 13 pwynt, a llwyddo gyda'i chwe chic at y pyst.