Owen Rhoscomyl: Cowboi, milwr, hanesydd, Cymro

Published
Pynciau Cysylltiedig

Ar 15 Hydref 1919, bu farw'r milwr, y cenedlaetholwr ac awdur hanes Cymru, Owen Rhoscomyl.

Cafodd ei gladdu ym mynwent Sant Tomos yn Y Rhyl yn dilyn angladd enfawr. Roedd pwysigion cyngor y dref yn bresennol ymhlith y dyrfa fawr o alarwyr, ynghyd â thri chant o filwyr mewn gosgordd a gludodd yr arch drwy'r dref o'r orsaf i'r eglwys.

Ond pwy yn union oedd o?

image copyrightCasgliad y Werin
image captionYr Owen ifanc fel cowboi

Cowboi a milwr

Cafodd ei eni yn Robert Scourfield Mills yn 1863 yn Southport, ond cafodd ei fagu gan ei nain wedi marwolaeth ei rieni.

Roedd ei nain yn dod o Dremeirchion, ac fe fagodd ei hŵyr yn Gymro cenedlaetholgar. Hi oedd yr un a fyddai'n ei alw yn Owen, ar ôl Owain Glyndwr, ac yn fuan wedi hynny, newidiodd Robert ei enw i Arthur Owen Vaughan.

Ar ôl marwolaeth ei nain pan oedd o'n 16 oed, dihangodd i'r môr ar gwch o Borthmadog oedd yn hwylio draw i Rio de Janeiro.

Treuliodd amser yn America yn ystod cyfnod y Gorllewin Gwyllt yn gweithio fel cowboi, gan ddysgu sgiliau marchogaeth, sgowtio a hela. Mae hefyd sôn iddo ymladd brodorion yn yr Andes yn Ne America.

image copyrightLlyfrgell Genedlaethol Cymru
image captionCapten Arthur Owen Vaughan gyda chrafanc teigr ar ei het. Arfer catrawd y Rimington's Guides oedd i gael rhan o groen teigr ar yr iwnifform - roedd cael crafanc yn fraint ac yn arwydd o barch ei gyd-filwyr tuag ato.

Felly pan ddychwelodd i Brydain, nid oedd hi'n syndod iddo ymuno â'r fyddin. Fodd bynnag, pan ddechreuodd Rhyfel y Boer yn 1899, er ei fod ar dân i fynd draw yno i ymladd, cafodd ei gais ei wrthod.

Penderfynodd fynd draw i Dde Affrica beth bynnag, a thalu am gwch draw i Cape Town o'i boced ei hun. Yno, ymunodd â'r Rimington's Guides, criw o filwyr anghyffredin a llechwraidd Prydeinig a fu'n ymladd tu ôl i linellau'r gelyn.

Cafodd yrfa llewyrchus iawn, gan gael ei ddyrchafu nifer o weithiau, a'i ddisgrifio gan un cyrnol fel 'y dyn dewraf i mi erioed ei gyfarfod'.

image copyrightCasgliad y Werin
image captionCafodd Owen yrfa milwrol llewyrchus

Arwisgo Tywysog Cymru 1911

Bu'n flaenllaw yn sefydlu'r catrawd ceffylau Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ymladdodd gyda nifer o gatrodau ym Mhrydain a draw yn Ffrainc, gan godi drwy'r rhengoedd. Cafodd ei wobrwyo â'r Distinguished Service Order ddiwedd 1918.

Mae hefyd sôn ei fod wedi gweithio fel milwr cudd, ac mae'n cael ei gyfeirio ato fel bod wedi gwneud 'confidential service in France for Lloyd George during First World War'.

Prin yw'r dystiolaeth ffurfiol o hyn, wrth gwrs, ond roedd gan Owen berthynas â David Lloyd George pan oedd yn Ganghellor.

Mae'n debyg mai syniad Owen oedd hi i arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911, syniad a gafodd ei weithredu yn bennaf ohewydd dylanwad Lloyd George.

image copyrightCentral Press
image captionMae sôn fod Owen Rhoscomyl tu ôl i gynnal seremoni arwisgo Edward VIII fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911

Owen yr hanesydd

Ond nid cowboi a milwr oedd Owen yn unig. Er ei fywyd llawn antur, roedd yn addysgedig iawn am hanes Cymru, ac yn dipyn o lenor.

Ysgrifennai o dan y llysenw Owen Rhoscomyl - enw a greodd o lythrennau cyntaf ei enwau genedigol, Robert Scourfield Mills.

Roedd erthyglau ganddo am hanes Cymru, cenedlaetholdeb, a'i brofiadau mewn rhyfel yn ymddangos yn rheolaidd mewn cylchgronau fel The Nationalist a Heddyw.

image copyrightLlyfrgell Genedlaethol Cymru

Rhwng 1895 ac 1899 ysgrifennodd bump llyfr am hanes Cymru, ond ei lyfr enwocaf oedd Flame-Bearers of Welsh History yn 1905.

Dyma lyfr a drafodai rai o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf trawiadol ac anrhydeddus y genedl.

Fodd bynnag, ni chafodd y cyhoeddiad ei gymeradwyo gan academyddion oherwydd ei fod yn 'fwriadol yn annog ymdeimlad o genedlaetholdeb' ymhlith ei ddarllenwyr.

Yn ei ragair yn Flame-Bearers of Welsh History, dywedodd:

"No Welsh boy can well read the history of his ancestors - so stirring a record of so stubborn a race, such a good, grim, fighting race - without feeling that it is good to be a Cymro."

Ef hefyd oedd awdur y Pasiant Cenedlaethol Cymreig yng Nghaerdydd yn 1909.

Roedd yn berfformiad enfawr o filoedd o bobl a oedd yn adrodd hanes y genedl - y gwerthryfela a'r gorthrwm - gyda'r gobaith o ysbrydoli'r gynulleidfa ac annog cenedlaetholdeb yn eu plith.

image copyrightCasgliad y Werin

Pan fu farw yn 56 oed o ganser yr iau, roedd wedi ymgartrefu yn Ninas Powys gyda'i wraig a'u pedwar o blant.

Yn ystod ei angladd, cafodd ei nodi yn y papurau newydd mai'r Ddraig Goch oedd yn gorchuddio'i arch, yn hytrach na'r Jac yr Undeb mwy traddodiadol mewn angladdau milwrol.

Mae dwy garreg ar ei fedd, i adlewyrchu dwy ochr ei gymeriad - carreg filwrol gan Gomisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad i Col. Vaughan, a chroes Geltaidd i Owen Rhoscomyl.

Rhoddodd bapur newydd y Western Mail y deyrnged yma iddo:

"Rhoddodd i'w wlad... lafur dibaid ei ymennydd a'i law. Roedd yn deithiwr, milwr, a threfnydd ac ysgrifennwr, ond yn bennaf yn Gymro cenedlaetholgar... Ymgeisiodd ddyfnhau a chryfhau cenedlaetholdeb ei gyd-Gymro."

Hefyd o ddiddordeb: