Ryan Elias yn 'gobeithio cymryd fy siawns'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ryan Elias yn 'gobeithio cymryd fy siawns' yn erbyn Uruguay

11 Hydref 2019 Diweddarwyd 10:16 BST

Mae Warren Gatland wedi gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji i herio Uruguay yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul.

Hon fydd gêm grŵp olaf Cymru a gyda'r crysau cochion eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf mae cyfle i arbrofi rywfaint.

Bydd bachwr y Scarlets, Ryan Elias yn dechrau am y tro cyntaf yn Japan, a dywedodd ei fod yn gobeithio "cymryd fy siawns" i greu argraff cyn rownd yr wyth olaf.