Cwpan y Byd: 13 newid i dîm Cymru i herio Uruguay

Justin Tipuric Image copyright MB Media
Image caption Y blaenasgellwr Justin Tipuric fydd y capten wrth i Alun Wyn Jones gael seibiant

Mae Warren Gatland wedi gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji i herio Uruguay yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul.

Hon fydd gêm grŵp olaf Cymru a dyw'r newidiadau ddim yn annisgwyl.

Gyda'r crysau cochion eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf mae cyfle i arbrofi rywfaint gyda'r canolwr Hadleigh Parkes a'r asgellwr Josh Adams - yr unig ddau i gadw eu lle wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Fiji.

Y blaenasgellwr Justin Tipuric sy'n gapten wrth i Alun Wyn Jones gael seibiant.

Mae'r clo Adam Beard wedi ei gynnwys ar ôl gwella wedi llawdriniaeth i dynnu ei bendics.

Rhys Patchell sydd yn dechrau yn safle'r maswr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Ryan Elias ei fod yn gobeithio "cymryd fy siawns" i greu argraff

Mae Hallam Amos yn cael ei gyfle cyntaf yn y gystadleuaeth a hynny ar yr asgell chwith, tra bod Bradley Davies, y bachwr Ryan Elias a'r mewnwr Aled Davies hefyd yn dechrau am y tro cyntaf yn Japan.

Oherwydd anafiadau a'r amser byr rhwng y ddwy gêm grŵp olaf dim ond dau olwr sydd ar y fainc - y mewnwyr Gareth Davies a Tomos Williams.

Tywydd garw

Dau bwynt sydd ei angen ar Gymru yn erbyn Uruguay i orffen ar frig grŵp D.

Fe fyddai hynny yn arwain at ornest yn erbyn Ffrainc yn y chwarteri ar ol i'w gêm grŵp olaf nhw yn erbyn Lloegr gael ei chanslo oherwydd teiffŵn Hagibis.

Fe allai'r tywydd garw yn ardal Tokyo dros y penwythnos effeithio ar bedair gêm arall gan gynnwys y gêm allweddol yng ngrŵp A rhwng Japan a'r Alban.

Mae disgwyl penderfyniad ynglyn â'r gemau hynny fore Sul.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae tîm Warren Gatland eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr wyth olaf

Bydd modd dilyn y gêm o Stadiwm Kumamoto ar lif byw Cymru Fyw fore Sul, gyda'r gic gyntaf am 09:15 amser Cymru.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; Josh Adams, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Hallam Amos; Rhys Patchell, Aled Davies; Nicky Smith, Ryan Elias, Dillon Lewis, Bradley Davies, Adam Beard, Aaron Shingler, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright.

Eilyddion:Elliott Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Ross Moriarty, James Davies, Tomos Williams, Gareth Davies.

Straeon perthnasol