Lladd-dy amlwg i roi'r gorau i brosesu cig eidion

Lladd-dy
Image caption Mae Randall Parker Foods wedi ei leoli ger Llanidloes ym Mhowys

Mae un o brif ladd-dai Cymru wedi dweud ei fod yn rhoi'r gorau i brosesu cig eidion.

Yn ôl Randall Parker Foods, sydd wedi ei leoli ger Llanidloes ym Mhowys, mae'r penderfyniad yn un ariannol ar ôl gostyngiad yn nifer y gwartheg sy'n cael eu prosesu ar y safle.

Mae pryderon y bydd mwy o ffermwyr yn gorfod teithio dros y ffin o hyn ymlaen, gan gynyddu milltiroedd bwyd.

Dim ond un lladd-dy mawr fydd yn parhau i brosesu cig eidion yng Nghymru ar ôl yr wythnos nesaf, sef St Meryns ym Merthyr Tudful.

Image caption Yn ôl Gareth Evans bydd y penderfyniad yn golygu cost ychwanegol i ffermwyr

Mae Gareth Evans, sy'n rheolwr cig eidion i Gastell Howell a Celtic Pride, yn dweud bod prosesu gwartheg yn lleol yn hanfodol i'r brand Cymreig.

"Mi fydd 'na effaith arnom ni fel busnes am ein bod yn defnyddio Llanidloes bob pythefnos i dair wythnos," meddai.

"Bydd dim modd prosesu'r gwartheg yna yn Llanidloes rhagor. Mi fydd yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach, ar gost ychwanegol i'r ffermwyr.

"Yn ogystal, mae yna effaith ar safon y cig wrth deithio ym mhellach i ffwrdd. Mae pryder y bydd 'chwaneg o gig eidion yn mynd allan o Gymru i gael ei brosesu.

"Mae'n effeithio ar y gwaith o fewn y diwydiant yng Nghymru, a gyda phob anifail sy'n cael ei brosesu dros y ffin, mae Cymru yn colli'r lefi ar y cynnyrch yna."

Image caption Dywedodd Randall Parker Foods fod gostyngiad yn y galw am gig eidion

Mae llefarydd ar ran Randall Parker Foods yn dweud eu bod yn derbyn cyn lleied ag 80 o wartheg i'w lladd bob wythnos, i lawr o 400 ar un adeg.

Mae hyn "oherwydd bod y galw am gig eidion wedi plymio" ar y cyd gyda "chigyddion a'r farchnad gyfanwerthu yn mynnu cig wedi ei becynnu, sy'n barod i'w werthu, heb gostau gwastraff na phrosesu".

Tri o ladd-dai mawr sydd yng Nghymru erbyn hyn.

Bydd dau o'r rheiny - Dunbia yn Llanybydder a Randall Parker Foods - yn prosesu cig oen yn unig o hyn ymlaen.

Mae lladd-dai llai yn parhau i brosesu cig eidion, mewn niferoedd llai.

Image caption Mae Dafydd Parry Jones yn ffermio yn ardal Penegoes, ger Machynlleth

Yn ffermwr o Benegoes ger Machynlleth, mae milltiroedd bwyd Dafydd Parry Jones wedi cynyddu'n aruthrol yn sgil y newidiadau.

"Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi bod yn pesgi gwartheg ac yn hapus iawn i fynd a nhw i'n lladd-dy lleol yn Llanidloes," meddai.

"Mae wedi bod yn hwylus iawn i ni.

"Mi gafon ni wybod na fyddan nhw'n cael eu lladd yn Llanidloes o hyn ymlaen ac mae'r gwartheg yma'n mynd i fynd i Swydd Efrog.

"Mae hynny tua 200 milltir i ffwrdd sy'n dipyn o newid ac yn golygu mwy o gostau i ni hefyd."

'Achos pryder'

Dywedodd llefarydd ar ran Hybu Cig Cymru: "Mae'n ddealladwy y bydd cwmnïau unigol yn cymryd penderfyniadau am ystod eang o resymau masnachol.

"Wrth edrych ar y darlun strwythurol, mae'n amlwg fod diffyg capasiti prosesu cig eidion sy'n hygyrch i ffermwyr sawl ardal o Gymru yn bwnc hirdymor sy'n achos pryder.

"Mae cyflwr presennol prisiau biff, sy'n deillio o amryw o resymau rhyngwladol, hefyd yn achosi anhawster i broseswyr a ffermwyr fel ei gilydd."

Disgrifio'r newyddion fel un "drwg i'n ffermwyr" wna Undeb Amaethwyr Cymru.

"Rhaid i ni deithio ymhellach eto a bydd yn ddrytach i gynhyrchwyr fynd â gwartheg i ladd-dy ymhellach i ffwrdd," meddai'r llywydd Glyn Roberts.

"Yn ogystal, bydd yr ardoll ar gyfer y cig eidion sy'n mynd dros y ffin yn aros yn Lloegr, sy'n ergyd ddwbl."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol