ACau'n cefnogi enw dwyieithog i'r Cynulliad

Cynulliad Image copyright Getty Images

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid cael enw dwyieithog i'r sefydliad pan fydd yn cael teitl newydd.

Bydd yn cael ei alw'n Senedd Cymru yn Gymraeg, a Welsh Parliament yn Saesneg.

Fe wnaeth y mwyafrif o ACau wrthod cael enw Cymraeg yn unig, gan gefnogi cynnig y cyn-brif weinidog, Carwyn Jones am enw dwyieithog.

Roedd 43 o ACau yn cefnogi cynnig Mr Jones, gyda 13 yn erbyn.

Pleidlais i bobl ifanc

Mae'r Cynulliad yn cynnal dadl ar y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru), fyddai hefyd yn rhoi pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed.

Fe wnaeth ACau ddatgan eu cefnogaeth i'r mater eto nos Fercher, wrth i gais gan Caroline Jones i'w dynnu o'r mesur gael ei wrthod o 45 pleidlais i 11.

Dywedodd Bethan Sayed ar ran Plaid Cymru eu bod yn "dathlu'r bleidlais hon heno ac yn edrych ymlaen at y dydd pan fydd ein pobl 16 a 17 oed yn cael bwrw eu pleidlais mewn etholiad i'r Senedd".

Fe wnaeth ACau hefyd bleidleisio o blaid rhoi'r hawl i wladolion tramor bleidleisio yn Etholiadau'r Cynulliad os ydyn nhw'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru - o 37 pleidlais i 16.

Nid dyma'r penderfyniad terfynol ar y materion, ond mae yn rhan allweddol o'r broses.

'Perthyn i bawb'

Cafodd cais i alw'r sefydliad yn 'Senedd' yn unig ei wrthod, ac fe gafodd cais i alw ACau yn Aelodau o Senedd Cymru hefyd ei wrthod.

Unwaith y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym bydd aelodau'n cael eu hadnabod fel Aelod o'r Senedd, sef yr un term â'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer aelodau yn San Steffan.

Roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Mr Jones.

Image caption Carwyn Jones wnaeth y cynnig i gael enw dwyieithog ar y sefydliad

Yn dilyn y bleidlais dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai enw Cymraeg yn "perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru".

"Siomedig o beth yw bod y llywodraeth wedi gwrthwynebu'r enw hwnnw - sef safbwynt y prif weinidog ei hun - a chwipio gweinidogion i bleidleisio yn ei erbyn," meddai.

Yn gynharach ddydd Mercher roedd Plaid Cymru wedi galw am roi pleidlais rydd i weinidogion Llywodraeth Cymru ar y mater.

'Dathlu dwyieithrwydd'

Dywedodd Mr Jones y bydd yn bersonol yn defnyddio'r term Senedd, ond bod ei gynnig yn ei gwneud yn fwy amlwg yn gyfreithiol beth yw'r sefydliad.

Ychwanegodd nad oedd yn credu bod "pawb yn deall bod Senedd yn golygu Parliament".

Roedd y mesur gwreiddiol yn dweud mai Senedd fyddai'r enw swyddogol, ond y gallai hefyd gael ei adnabod gyda'i enw Saesneg, ond roedd gweinidogion yn bryderus y byddai hynny'n ddryslyd.

Fe wnaeth y Ceidwadwr David Melding gefnogi Mr Jones, gan ddweud bod enw dwyieithog yn dathlu "y byd gwych yr ydyn ni'n byw ynddo, yn y byd Saesneg ei hiaith a'r byd Cymraeg ei hiaith - mae'r cyfuniad hwnnw yn gwneud Cymru yn lle eithriadol".

Dywedodd Mike Hedges - un o ddu AC Llafur wnaeth bleidleisio o blaid enw uniaith Gymraeg - ei fod yn siomedig ond ei fod yn disgwyl mai'r enw Senedd fyddai'n cael ei ddefnyddio gan y mwyafrif.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol