Dafydd Iwan a Huw Jones: Hanner canrif o Sain

sain Image copyright Sain
Image caption Stiwdio Sain yn Llandwrog, 1980

Ar 9 Hydref, 1969, sefydlwyd cwmni recordio Sain, enw adnabyddus iawn yn hanes cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru.

Hanner canrif yn ddiweddarach mae'r cwmni yn dal i fynd, gyda'r stiwdio recordio yn Llandwrog ger Caernarfon yn parhau i gynhyrchu cerddoriaeth Cymraeg o bob math.

Ar BBC Radio Cymru ar 8 Hydref fe siaradodd Aled Hughes gyda dau o'r sylfaenwyr, Dafydd Iwan a Huw Jones, i drafod hanes y cwmni eiconig.

Huw Jones: "Roedden ni'n ifanc iawn, 21 o'n i pan gychwynnodd Sain. 'Da chi ddim yn meddwl yn bellach na mis nesaf bron yn yr oed yna, 'da chi'n byw yn y funud.

"Pwrpas Sain oedd i allu cynhyrchu a chael recordiau o safon."

Dafydd Iwan: "[Roedden ni'n] sylweddoli bod y byd recordio yn Saesneg wedi symud ymlaen yn gyflym iawn yng nghyfnod y Beatles ac yn y blaen, a theimlo bod rhaid i'r dechnoleg recordio yn Gymraeg symud ymlaen hefyd."

Image copyright Sain
Image caption Record enwog Huw Jones o 1969, 'Dŵr'

'Dŵr', y record gyntaf

Huw Jones: "Oedd gen i gân ac o'n i isho cael hi allan ar record.

"O'n i wedi gwneud dwy record o'r blaen gyda chwmni Teldisc, ac mi aethon ni ati i recordio'r gân cyn bod y cwmni'n bodoli, a chael sesiwn rhad ac am ddim drwy gymwynas ffrind i Meic Stevens. Mi ddewisodd Meic ddefnyddio'r sesiwn yna i recordio Dŵr yn Llundain."

Image copyright Sain
Image caption Huw Jones yn Gwernafalau, y stiwdio parhaol cyntaf

"Mi roedd hi'n ddiwrnod rhyfeddol. Doedd 'na ddim lot o drefn, roedd 'na bobl yn troi fyny trwy wahoddiad i gyfrannu, dim ymarfer, a rhyw redeg drwy'r gân gwpwl o weithiau, 'Duw, 'nawn ni be fedrwn ni'.

"A drwy ryw wyrth, oherwydd bod nhw'n gerddorion da a bod Meic wedi gwneud diwrnod arbennig o waith, mi drodd y peth allan yn reit dda ac mi roedd ganddon ni dâp wedyn.

"Fe benderfynon ni yn y diwedd mai beth oedden ni eisiau gwneud oedd ffurfio cwmni er mwyn cyhoeddi'r tâp yma, a'r record, ac wedyn recordiau eraill wrth gwrs."

Cyfraniad Meic Stevens

Dafydd Iwan: "Roedd Meic wedi gwneud dipyn o recordiau gyda Recordiau Dryw, ac o'n i'n gwybod bod 'na rhywbeth arbennig wedi dod o Solfach yn Meic Stevens. Gyda recordio Dŵr yn Llundain, dyna sail yr honiad y mae Meic yn dal yn i lynu wrthi, mai fo gychwynnodd Sain go iawn."

Image copyright Sain
Image caption Meic Stevens a'i record o 1971, 'Diolch yn Fawr'

Huw Jones: "Ail record Sain i fod oedd Myn Duw, Mi A Wn Y Daw! gan Dafydd. Roedd y tâp yn barod i fynd, ond fe aeth o i'r carchar. Nes i sgwennu'r gân Paid digalonni heb fod â bwriad i recordio, ond efo'r bwriad i ymgyrchu tra roedd o i mewn.

"Ond mi berswadiwyd fi i y dylid gwneud record o hon a dod â hi allan yn syth. Roedd hi'n rhan o gynnwrf y cyfnod, roedd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a chychwyn Sain yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd o ran eu themâu yn sicr.

Image copyright Sain
Image caption Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog

Chwaraewr recordiau ym mhob cartref

"Yn y dyddiau yna roedd gennych chi rywfaint o raglenni radio Cymraeg a rhywfaint o raglenni teledu, ond ysbeidiol oedden nhw. Ond roedd ganddoch chi ym mhob cartref yng nghefn gwlad Cymru, chwaraewr recordiau a stac o recordiau, rhan fwyaf ohonyn nhw'n EPs 7", ac roedd y rhain yn cael eu chwarae drwy'r amser gan bobl, felly fe roedd yna drydydd cyfrwng torfol.

"Roedd hwnnw'n gyfnod trawiadol iawn, cyfrwng torfol yn cael ei greu gan y bobl, heb ddisgwyl i'r awdurdodau ddweud eich bod yn cael gwneud."

Image copyright Sain
Image caption Dafydd Iwan wrth y ddesg

Adlewyrchu pob agwedd

Daydd Iwan: "Un peth da ni wedi ei grybwyll yn ystod yr hanner canrif... ydy bod ni'n trio adlewyrchu diwylliant Cymru yn ei holl agwedda', ac o edrych yn ôl, mae'n debyg y gall rywun ddweud bod o'n ddarlun eitha' cynhwysfawr.

Image copyright Sain
Image caption Hogiau Llandegai

"Nid yn unig o'r canu newydd, canu roc ac ati, ond hefyd y corau a'r llafar, a'r hiwmor. Hynny yw mae rhychwant eang iawn o stwff wedi ei recordio, dyna pam 'da ni'n awyddus iawn i'r archif 'ma gael ei gwarchod mewn rhyw ffordd i'r dyfodol."

Image copyright Sain
Image caption Y band gwerin Plethyn

Symud i Wernafalau

Dechreuodd y recordio yng Nghymru yng Nghaerdydd, cyn symud i sawl man yng ngogledd Cymru. Ymysg y llefydd yr oedd Sain wedi ymgartrefu oedd Gwernafalau a chantîn mewn stâd ddiwydiannol ym Mhenygroes.

Ffeindiwyd cartref parhaol yn Llandwrog yn y pen draw mewn adeilad pwrpasol ar gyfer recordio.

Image copyright Sain
Image caption Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

Dafydd Iwan: "Oedd hi'n amlwg fel oedd y cwmni yn symud ymlaen a'r recordiau'n amlhau, roedd hi'n gwneud synnwyr i ni gael stiwdio'n hunain.

"Cychwynnon ni gyda stiwdio wyth trac ym meudy Gwernafalau, jest i fyny'r lôn o'r stiwdio bresennol, a honno fuodd ein cartref ni drwy'r 70au.

"Roedden ni'n troi albwms allan yn wythnosol bron - roedd hi'n gyfnod rhyfeddol o gynhyrchiol, a hwyliog, a'r stiwdio'n mynd bron 24 awr y dydd.

Image copyright Sain
Image caption Swyddfa Sain yn 1985

"Roedd yn rhaid i ni wedyn gymryd y cam nesa' sef anelu at stiwdio oedd cystal â unrhywbeth yng Ngwledydd Prydain ar y pryd, os nad Ewrop, a mynd am stiwdio 24 trac, a chael cynllunydd ifanc o Lundain i gynllunio'r stiwdio o fewn y gragen oedden ni wedi ei greu yn Llandwrog."

Image copyright Sain
Image caption Bryn Terfal ac Emyr Rhys

Cymwynas Osbourne a Glesni Jones

Huw Jones: "Dwi'n meddwl bod ni 'di cael bod yno yn ddi-dâl am gyfnod go hir, os nad am yr holl gyfnod, ac felly roedd y gymwynas yna gan Osbourne a Glesni Jones i'r cwmni yn ei ddyddiau cychwynnol yn un ofnadwy o werthfawr.

"Ac roedd atgofion y grwpiau oedd yn dod yno, o Gwernafalau, yn rhan o chwedloniaeth genedlaethol erbyn hyn bron."

Image copyright Sain
Image caption Aled Jones

Dafydd Iwan: "Buodd Osbourne a Glesni yn hael iawn i ni, a diodde' llifeiriant o'r cerddorion rhyfedda welodd Cymru erioed yn dod i'w buarth nhw diwrnod ar ôl diwrnod.

"Yna symud lawr y lôn i'r lle yma, oedd yn le bwydo anifeiliaid, a chyn hynny yn ganolfan i'r llu awyr. an hyn oedd yr Americanwyr, ac mae'n debyg bod y swyddfeydd a'r stiwdio bresennol yn yr officers mess a'r 'sbyty."

Image copyright Sain
Image caption Siân James

Trebor Edwards - y gwerthwr mwyaf

Dafydd Iwan:"Roedd ei apêl o yn rhyfeddol gyda'r Cymry Cymraeg, a thu hwnt, a dwi'n credu bod o'n wir i ddweud mai fel artist unigol does 'na neb wedi gwerthu mwy o recordiau Cymraeg na Trebor Edwards - 'da ni'n sôn am ddegau o filoedd.

"Ffarmwr oedd o wrth gwrs, ac roedd o'n mynd â recordiau ei hun i werthu yn ei gyngherddau - dyna nodwedd arall o'r cyfnod. Dwi'n cofio fo unwaith yn dod yma gyda thipyn o ddefaid yng nghefn y fan, a chynnig cwpwl o ddefaid i Huw yn lle talu am y recordiau!"

Image copyright Sain
Image caption Trebor Edwards

Ymddangosiad Edward H

Huw Jones: "Pan oedden ni'n cychwyn, 'canu gwerin' oedd be' oedden ni'n wneud, ond canu acwstig fysa'r disgrifiad cywir ohono fo. Dyma Edward H yn dod, nid y grŵp trydanol cyntaf - Blew oedd y rheiny, cyn cyfnod Sain.

"Nai byth anghofio tafodau tân yn Eisteddfod Rhuthun pan berfformiodd Edward H ar lwyfan mawr am y tro cyntaf yn drydanol ar yr un llwyfan â phobl oedd yn canu'n acwstig, a'r argraff drawiadol wych 'ma."

Image copyright Sain
Image caption Edward H Dafis

Newid technoleg

Huw Jones: "Mae pob cyfnod yn teimlo fel 'sa fo am bara' am byth. Pan oedden ni'n cychwyn Sain - finyl 7" oedd hi, ac oedden ni ddim yn meddwl am recordiau hir i gychwyn. Dwi'n cofio 6 swllt ac 8 geiniog oedd record sengl yn gostio, ac oedd EP, sef y pedair cân, yn costio 14 swllt ac 11 ceiniog.

Image copyright Sain
Image caption Anfonodd Maffia Mr Huws gopi o'u record hir at Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, Ronald Reagan

"Y cyfrwng casét oedd yr un cyntaf ar ôl finyl, yn rhedeg gyfochrog â finyl, â'r gallu i chwarae'r gerddoriaeth yn y car, dyna oedd y fantais fawr. Pan oeddwn i yn Sain, dyna'r ddau beth oedd yna, nes i ddim cyrraedd y cyfnod CDs.

"Falle'r peth mawr newydd 'naethon ni yn fy nghyfnod i oedd y record hir. Roedd hyn yn gam pwysig a oedd yn gyfle i artistiaid gyflwyno casgliadau, ac roedd hyn hefyd yn economaidd bwysig i'r busnes, gan fod record hir angen gwerthu llai o recordiau er mwyn torri'n wastad nac oedd EP neu sengl.

Image copyright Sain
Image caption Recordiodd Catatonia gyda Sain cyn eu henwogrwydd mawr yn Saesneg

"Roedd casgliad y cwmni o recordiau yn cynyddu, a'r rhai cynnar yn dal i werthu, ac wrth i'r cwmni fynd yn ei flaen roedd hynny'n ei gwneud hi'n haws wedyn i gynnal, i gyflogi pobl ac i brynu fan oedd yn mynd o gwmpas y lle gyda stoc fawr arni.

"Roedd y cyfan yn troi mewn i gylch buddiol mwy tymor hir nad oedden ni wedi meddwl ar y dechrau."

Image copyright Sain
Image caption Sidan

Huw Jones: "Dwi'n meddwl fod y penderfyniad i ni symud Sain i'r gogledd, roedd o'n ddatganiad personol i ni, ond hefyd yn dweud bod ddim rhaid i bopeth fod yn y brifddinas. Hefyd roedd o'n ymrwymiad i'r Gymraeg yn un o'r ardaloedd lle'r oedd y Gymraeg dal yn iaith lafar, ac i greu gwaith yno, dyna oedd y symbyliad.

"Os oedd y cwmni am dyfu roedden ni eisiau i'r swyddi yna fod mewn ardal Gymraeg, a dyna'n union ddigwyddodd. Mi roedd hynny yn symbyliad tymor hir, er doedd ganddon ni ddim syniad pa mor bell oedd y peth yn mynd i fynd."

Image copyright Sain
Image caption John ac Alun

Hefyd o ddiddordeb: