Arestio dyn o Gastell-nedd ar amheuaeth o lofruddiaeth

Richard Andrews Image copyright Family handout
Image caption Cafodd corff Richard Andrews ei ddarganfod ym mis Medi 2018

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar lan afon Nedd ym mis Medi 2018.

Cafodd gweddillion Richard Andrews o ardal Melyn, Castell-nedd eu canfod ar 29 Medi, ond y tro olaf iddo gael ei weld yn fyw oedd ym Medi 2017.

Dywed yr heddlu fod dyn 48 oed o Gastell-nedd yn cael ei holi yn y ddalfa.

Fe wnaeth llefarydd ddisgrifio Mr Andrews, oedd yn cael ei adnabod gyda'r llysenw 'Monkey', fel unigolyn bregus yr oedd modd cymryd mantais ohono.

Straeon perthnasol