Pryder i staff a theithwyr wedi methiant Thomas Cook

Awyren Thomas Cook Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y cwmni'n cyflogi 9,000 o bobl ar draws y DU a 22,000 ar draws y byd

Mae swyddi staff Thomas Cook yng Nghymru yn y fantol a theithwyr sydd wedi trefnu gwyliau gyda'r cwmni yn gorfod ailystyried eu cynlluniau wedi cadarnhad bod y cwmni wedi stopio gweithredu.

Methodd y cwmni - gafodd ei sefydlu 1841 - â sicrhau £200m mewn cyllid ychwanegol i achub y busnes wedi misoedd o drafferthion ariannol.

Mae ymdrechion ar waith nawr i ddod â 150,000 o deithwyr yn ôl i Brydain o'u gwyliau - yr ymdrech fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd i gludo pobl gartref.

Mae cwsmeriaid Thomas Cook oedd i fod i hedfan ddydd Llun yn cael eu cynghori gan reolwyr i beidio â theithio i'r maes awyr, gan fod holl hediadau'r cwmni wedi cael eu canslo.

Mae holl siopau'r cwmni ar gau ac mae yna 28 o ganghennau yng Nghymru:

  • Aberdâr
  • Aberhonddu
  • Abertawe
  • Aberteifi
  • Bangor
  • Y Barri
  • Bae Colwyn
  • Caerdydd (pedair cangen)
  • Caerffili
  • Caerfyrddin
  • Casnewydd
  • Castell-nedd
  • Cwmbrân
  • Glyn Ebwy
  • Llanelli
  • Llanilltud Fawr
  • Maesteg
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont
  • Pontypridd
  • Port Talbot
  • Porth
  • Y Rhyl
  • Tonypandy
  • Wrecsam
Image caption Siop Thomas Cook Aberteifi ar gau ddydd Llun

Fe laniodd hediad olaf Thomas Cook ym Maes Awyr Caerdydd am 01:09 bore Llun wedi taith o Larnaca, yng Nghyprus.

Taith 14:00 brynhawn Sul i Larnaca oedd hediad olaf y cwmni o Gaerdydd.

Roedd nifer o deithwyr oedd i fod i deithio i Zakynthos, yng Ngwlad Groeg, am 06:40 wedi cyrraedd y maes awyr cyn cael gwybod bod yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cadarnhau yn yr oriau mân bod y cwmni wedi dod i ben.

Mae 5,800 o gwsmeriaid Thomas Cook wedi teithio o Gaerdydd yn y pythefnos diwethaf ac roedd rhyw 120 o deithiau wedi eu trefnu ar gyfer y cyfnod hyd at fis Tachwedd.

Image copyright Ma
Image caption Mae 5,800 o gwsmeriaid Thomas Cook wedi teithio o Faes Awyr Caerdydd yn y pythefnos diwethaf

"Fel un o gwmnïau teithio hynaf y DU, mae Thomas Cook yn frand adnabyddus ar draws de Cymru, ac mae ein cwsmeriaid wedi bod yn hedfan gyda nhw am ryw 25 mlynedd i fwynhau gwyliau dramor," meddai prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Bowen Rees.

"Mae cwsmeriaid oedd i fod i hedfan o Gaerdydd yn cael eu cynghori i beidio â theithio i'r maes awyr. Mae pob hediad arall yn mynd ymlaen yn ôl yr arfer.

"Hoffwn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid y byddem yn gwneud ein gorau glas i gefnogi'r ymdrech i gludo pobl yn ôl adref, a byddem yn parhau i weithio'n agos gyda'r (CAA) i hwyluso'r trefniadau ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio."

Yr un yw'r cyngor i gwsmeriaid Thomas Cook o rannau eraill o Gymru sy'n defnyddio meysydd awyr fel Lerpwl, Manceinion a Birmingham.

Image caption Desgiau segur Thomas Cook ym Maes Awyr Caerdydd ddydd Llun

Beth mae hyn yn ei olygu i Faes Awyr Caerdydd?

Asesiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Brian Meechan

Mae meddyliau pawb heddiw gyda staff a chwsmeriaid Thomas Cook.

Fe fydd rheolwyr Maes Awyr Caerdydd yn canolbwyntio heddiw ar eu gwaith gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil, y CAA, i ddod â phobl adref.

Ond fe fydd yn rhaid iddo hefyd ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae tua 100,000 o deithwyr yn hedfan gyda Thomas Cook drwy Faes Awyr Caerdydd bob blwyddyn, ac fe fydd y rheolwyr nawr yn ceisio sicrhau fod cwmnïau awyrennau eraill yn darparu hediadau i'r cwsmeriaid yna yn 2020.

Ac fe fydd trefnu hynny mewn pryd ar gyfer y tymor nesaf yn her.

Fodd bynnag fe fydd modd i'r maes awyr ddangos, o leiaf, bod y galw am y gwasanaeth yna.

Image copyright Maes Awyr Caerdydd
Image caption Roedd awyren Thomas Cook i fod i deithio o Gaerdydd i Dwrci brynhawn Llun

Mae Lisa Williams o Abercynon yn berchen ar dŷ yn Nhwrci ac yn mynd yno sawl gwaith y flwyddyn yn ystod gwyliau'r ysgol.

Roedd hedfan i Dalaman o Gaerdydd trwy gwmni Thomas Cook, meddai wrth Post Cyntaf, yn fwy hwylus ac yn rhatach na theithio gyda chwmnïau eraill o lefydd fel Bryste a Llundain.

Mae hi wedi gwario £1,300 ar docynnau ar gyfer yr hanner tymor a Phasg nesaf ond yn hyderus o gael ei harian yn ôl, ond mae'n tristáu dros bobl fel ffrind iddi sy'n gweithio i'r cwmni ac yn colli eu swyddi.

"Mae'n ergyd ofnadwy iddyn nhw," meddai. "Yn yr haf, pan o'n i'n prynu tocynna', o'n i'n gw'bod falle bod trafferthion.

"Ond o'n i o'r farn os nag o'n i a phobl eraill sy'n byw yn Dalaman yn cefnogi Thomas Cook, wedyn bydden nhw yn mynd i drafferthion."

Cymorth a chyngor

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod Swyddfa Cymru'n gweithio'n agos â'r CAA, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i roi cyngor a chymorth i bobl o Gymru sydd ar eu gwyliau, a staff y cwmni yng Nghymru.

"Tra bod hwn yn benderfyniad masnachol, rwy'n cydnabod yn llwyr bod hwn yn gyfnod hynod bryderus ac ansicr i bawb sy'n cael eu heffeithio," meddai.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth Cymru bod y newyddion yn "siomedig dros ben".

Ychwanegodd Ken Skates y byddai'n "parhau i fonitro'r sefyllfa a chynnig unrhyw gymorth y gallwn ni" a "chefnogi'r rhai sydd mewn perygl o golli eu swyddi".

Pynciau Cysylltiedig