Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth heb ei hesbonio yn Abercarn

Hill Street Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Hill Street yn Abercarn nos Iau

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth sydd heb ei hesbonio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Sir Caerffili.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i gartref yn Abercarn am 23:10 nos Iau.

Dywedodd swyddogion nad yw achos y farwolaeth wedi ei gadarnhau hyd yma. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am y digwyddiad, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig