Dyn, 55, yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei dad, 76

Thomas Gallagher Image copyright Llun teulu
Image caption Mae Thomas Gallagher wedi cael ei ddisgrifio fel "curiad calon y teulu"

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad yng Nghwmbrân.

Cafodd corff Thomas Gallagher ei ganfod mewn tŷ ar Heol Cydweli am tua 10:30 ddydd Mawrth.

Fe ymddangosodd Stephen Gallagher, 55, o Heol Cydweli, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Ni chafwyd ple ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa cyn y gwrandawiad nesaf ar 8 Tachwedd.

Mae 3 Chwefror 2020 wedi ei bennu fel dyddiad ar gyfer achos llys.

Teyrnged teulu

Mewn datganiad fe ddywedodd teulu Thomas Gallagher mai ef oedd "curiad calon y teulu".

Fe ddisgrifiodd y teulu ef fel "gweithiwr eithriadol o galed, talentog, positif, anhunanol, creadigol, ffit a hwyliog".

"Roedd yn cael pleser yn helpu pobl eraill a'u gwneud nhw'n hapus - roedd wastad yn gweld y gorau yn bawb," meddai.

"Ef oedd y glud, y gofalwr, y datryswr problemau.

"Rydym wedi ein llorio gyda'i farwolaeth a'r ffordd iddo ein gadael ni."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol